Gallai asid brasterog Omega-6 helpu i atal clefyd y galon
18 Gorffennaf 2019
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Ben-Gurion wedi canfod bod gan asid brasterog amlannirlawn omega-6 y potensial i helpu i ymladd yn erbyn clefyd y galon.
Canfu'r tîm, a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, y gallai asid dihomo-gamma-linolenig (DGLA), asid brasterog amlannirlawn omega-6, atal cynnydd atherosglerosis - un o'r prif ffactorau sy'n achosi clefyd y galon.
Dywedodd yr Athro Ramji: “Er bod asidau brasterog amlannirlawn omega-3, sydd i'w cael mewn olewau pysgod, wedi bod yn effeithiol o ran cyfyngu atherosglerosis, mae gennym ddiffyg dealltwriaeth o hyd o rolau asidau brasterog amlannirlawn omega-6 yn y clefyd.
“Mae ein hymchwil yn dangos y gall DGLA gael effaith gadarnhaol ar atherosglerosis ar sawl cam, yn enwedig drwy reoli prosesau allweddol sy'n gysylltiedig â llid a gallu'r celloedd i gymryd a phrosesu colesterol.
“Gwelsom hefyd effeithiau amddiffynnol DGLA ar brosesau sy’n gysylltiedig ag atherosglerosis allweddol mewn celloedd endothelaidd a chelloedd cyhyrau llyfn - dau fath arall o gelloedd pwysig sy'n gysylltiedig â'r clefyd.
“Mae'r gwaith cydweithredol hwn yn agor drysau newydd at ymchwil bellach ynglŷn â’r defnydd o DGLA i atal a thrin atherosglerosis. Yr her nawr yw pwyso a mesur ein canfyddiadau, ac ystyried a ydynt yn berthnasol i fodau dynol.
Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn achosi un o bob tair marwolaeth ledled y byd, ac mae'n gyfrifol am bron i 170,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU. Mae atherosglerosis yn gysylltiedig â chulhau'r rhydwelïau oherwydd llid a dyddodion brasterog.
Gall therapïau atherosglerosis presennol gael sgîl-effeithiau ac felly mae ymchwilwyr yn edrych o hyd ar sut gallai defnyddio cynhwysion bwyd gweithredol helpu i atal a thrin y clefyd.
Dywedodd Dr Subreena Simrick, Uwch Ymgynghorydd Ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon: “Mae'r gwaith hwn yn cyfrannu at y dystiolaeth gynyddol y gallai'r asid brasterog amlannirlawn omega-6, DGLA, atal datblygiad atherosglerosis. Drwy nodi rhai o'r ffactorau dan sylw, mae gennym ddealltwriaeth well o sut mae'r cynhwysyn gweithredol hwn a geir yn ein diet yn gweithio ar lefel cellog. Gallai'r canfyddiadau hyn arwain at ddefnyddio DGLA i frwydro yn erbyn atherosglerosis."
Cyhoeddwyd ‘Dihomo-gamma-linolenic acid inhibits several key cellular processes associated with atherosclerosis’ ynBiochimica et Biophysica Acta -Molecular Basis of Disease.