Yr Ysgol Fferylliaeth yn ennill Gwobr y Faner Werdd
17 Gorffennaf 2019
Mae Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod unwaith eto yng Ngwobrau'r Faner Werdd, y marc ansawdd rhyngwladol mawreddog a ddyfernir yn flynyddol gan Cadwch Gymru'n Daclus. Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r Ysgol gael statws Baner Werdd, gan ddangos ymrwymiad yr Ysgol Fferylliaeth i faterion amgylcheddol.
Mae'r fenter wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac fe’i bernir gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sy’n rhoi o’u hamser eu hunain i ymweld â darpar safleoedd a’u hasesu yn ôl wyth o feini prawf llym, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.
Cafodd yr Ysgol Fferylliaeth ei chydnabod am Ardd Goffa Chris McGuigan, sydd y tu allan i brif fynedfa Adeilad Redwood. Cafodd yr ardd ei chreu yn 2017 ac mae’n cynnwys mainc goffa ac amrywiaeth o flodau gwyllt i annog peillwyr lleol. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymgyrch ehangach yr ysgol dros gynaliadwyedd trwy eu prosiect Pharmabees. Mae aelodau o staff yn rhoi o’u hamser i ofalu ar ôl yr ardd yn wirfoddol.
Dywedodd Justine Jenkins, y Rheolwr Ymchwil ac arweinydd y prosiect, “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'r ardd yn parhau i dyfu o ran maint ac mae'n parhau i fod yn ardal o lonyddwch lle gallwn fynd i gofio ein cydweithiwr gwerthfawr.”