Ewch i’r prif gynnwys

Estyn croeso i’r cynadleddwyr cyntaf o Tsieina i’r Ysgol Haf Seicoleg

17 Gorffennaf 2019

Summer School China
Head of School, Professor Petroc Sumner with delegates from the Beijing Normal University at this year's Summer School Programme.

Yr wythnos hon cyrhaeddodd y cynadleddwyr cyntaf o Brifysgol Normal Beijing a Phrifysgol Wuhan Gaerdydd ar gyfer yr Ysgol Haf Seicoleg eleni. Estynnon ni groeso o gyfanswm o tua 30 o fyfyrwyr a fydd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddarlithoedd, gweithdai a gweithgareddau cymdeithasol hynod ddiddorol dros y pythefnos nesaf.

Bydd y gweithdai yn ymdrin ag ystod eang o bynciau megis seicoleg fforensig, anhwylderau datblygiadol, agweddau, rhithiau gweledol, delweddu'r ymennydd, a bydd y cyfan yn nwylo ein staff addysgu arbenigol. Bydd y ymwelwyr hefyd yn profi addysgu ac ymchwil o fri ein hacademyddion o safon fyd-eang.

Estynnon ni groeso hefyd i aelodau o staff y ddwy brifysgol a oedd wedi cwrdd â nifer o'n hacademyddion i drafod cyfnewid myfyrwyr a chydweithio yn y dyfodol. Bu'r trafodaethau'n llwyddiant ysgubol a llofnododd Phrifysgol Genedlaethol Beijing gytundeb ysgol haf i gryfhau prosiectau ar y cyd â ni yn y dyfodol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Petroc Sumner, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg: "Pleser mawr yw croesawu ein hymwelwyr o Beijing a Wuhan yng Nghaerdydd. Cefais i groeso arbennig iawn ym mis Chwefror pan fues i'n ymweld â'u prifysgolion; roedd eu staff a'u myfyrwyr mor gefnogol a pharod eu cymwynas. Rwy'n gobeithio y byddan nhw’n mwynhau bod yng Nghaerdydd yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon

Find out more about our undergraduate degree programmes