Hwb i berfformiad elusennau Cymru
28 Mehefin 2019
Mae myfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi bod yn defnyddio eu gwybodaeth busnes yn ymarferol drwy gynorthwyo chwe elusen Gymreig fel rhan o'r dewis gwobrwyedig Ymgynghori Rheoli ar Raglen MBA Caerdydd.
Mae'r fenter, a gaiff ei rhedeg mewn cydweithrediad â'r ymgynghoriaeth arloesi a thrawsnewid, PA Consulting, yn gweld myfyrwyr yn gweithio gyda nifer o elusennau lleol i gynhyrchu a datblygu syniadau busnes newydd y gellir eu rhoi ar waith a'u gweithredu gan dimau rheoli'r elusennau.
Mae'r ymgynghori a'r gefnogaeth wedi bod yn amrywiol, o helpu i ddatblygu strategaethau busnes newydd i fwydo cynllun cynhwysiad digidol.
Gweithio yn y byd go iawn
Eleni, bu myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliadau yn cynnwys: Repair Café Wales; The Autism Directory; Bullies Out; Benthyg; Herio Cymru; Ynni Cymunedol Cymru.
Dywedodd Dr Joe O’Mahoney, Athro yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'r prosiect hwn wedi caniatáu i'n myfyrwyr gael profiad o waith ymgynghori yn y byd go iawn yn y trydydd sector, a rhoi rhywbeth yn ôl i gymuned Cymru yr un pryd. Maen nhw wedi cael cyfle i gyfuno gwybodaeth am adnoddau dynol, marchnata, strategaeth a chyfrifyddu...”
Dros bedair wythnos, bu'r myfyrwyr yn gweithio gyda'u helusennau penodedig i'w helpu i oresgyn rhai o'r heriau strategol a rheolaeth maen nhw'n eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Cyngor proffesiynol o ansawdd uchel
Helpodd PA Consulting i ffurfio'r fenter a darparu hyfforddiant i'r myfyrwyr ar sut i ymgysylltu â'u cleientiaid trydydd sector, a'u grymuso i ddarparu cyngor proffesiynol o ansawdd uchel.
Ychwanegodd Graeme Pauley, arbenigwr Dadansoddeg Strategaeth yn PA Consulting: “Rydym ni wedi annog a chefnogi'r fenter Gwerth Cyhoeddus arloesol hon o'r dechrau...”
Dywedodd Emma Thomas, o BulliesOut: “Bu BulliesOut yn gweithio gyda thri grŵp hynod frwdfrydig o fyfyrwyr a gynhyrchodd waith rhagorol ar sail y briff a roddwyd iddyn nhw gan yr Elusen...”
Mae'r myfyrwyr bellach yn dechrau ar eu traethawd estynedig terfynol, gan weithio'n unigol gyda chwmnïau ar draws de Cymru ar brosiect busnes ymarferol sy'n gwella effeithiolrwydd gweithrediadol y cwmni lletyol.
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn ymrwymo i strategaeth gwerth cyhoeddus blaengar sy'n hyrwyddo gwelliannau economaidd a chymdeithasol. Nod addysgu gwerth cyhoeddus yn yr Ysgol yw ceisio trosglwyddo ymdeimlad moesegol a dychymyg cydymdeimladol i fyfyrwyr tuag at heriau cymdeithasol ac economaidd yr oes sydd ohoni.
Mae menter Ymgynghori Rheoli’r MBA yn enghraifft ragorol o'r ffordd mae dealltwriaeth busnes, gwybodaeth a sgiliau'r myfyrwyr yn helpu i wella ymarfer busnes a'r trydydd sector, gan sicrhau budd cymdeithasol i gymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Darllenwch fwy am y dewis Ymgynghori Rheoli, a chenhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol.