Cymrodoriaeth er Anrhydedd 2019
15 Gorffennaf 2019
Mae digrifwr, actor o Hollywood, siaradwr blaengar ym maes meddygaeth a nenblymiwr sy’n codi arian i elusen ymhlith y rhai sy’n cael eu hurddo’n Gymrodyr Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd.
Bydd Eddie Izzard yn ymuno â Michael Sheen, cadeirydd Comisiwn Bevan a Chanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru Syr Mansel Aylward a Dilys Price, y parasiwtydd benywaidd hynaf yn y byd i dderbyn yr anrhydedd. Dyfernir y rhain i unigolion sydd wedi cael cydnabyddiaeth ragorol yn eu meysydd.
Bydd unigolion blaenllaw arall, gan gynnwys cyn raddedigion Prifysgol Caerdydd, yn casglu’r gwobrau mewn arbenigeddau gan gynnwys gwyddoniaeth, newyddiaduraeth, busnes, technoleg, elusen, plismona a chynaliadwyedd. Mae’r rhain yn cynnwys y gwyddonydd a’r darlledwr Alice Roberts, Llywydd Newyddion ABC James Goldston, Prif Weithredwr yr elusen ddigartref Llamau Frances Beecher a’r entrepreneur ym maes technoleg Steve Garnett.
Bydd dros 7,000 o fyfyrwyr yn graddio yn y seremonïau eleni (Gorffennaf 15-19). Yn sgîl hynny, byddant yn ymuno â’r 160,000 o gynfyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd, a chael manteisio ar lu o fuddiannau a gynigir i gynfyfyrwyr.
Caiff oddeutu 20,000 o ffrindiau eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer y dathliadau. Mae’r digwyddiad – un o’r rhai mwyaf yng nghalendr y Brifysgol – yn cael ei ffrydio’n fyw ar ei gwefan.
Dyma restr gyflawn Cymrodorion Anrhydeddus 2019:
Mae’r Athro Stephen Tomlinson CBE wedi cael gyrfa hir a nodedig o ymchwil feddygol ym meysydd endocrinoleg a diabetes. Yn gynharach yn ei yrfa, bu’n Is-Ganghellor Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Erbyn hyn mae’n Athro Emeritws Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Chymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol.
Mae Frances Beecher yn seicotherapydd ymddygiad gwybyddol ac wedi sefydlu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru. Hi hefyd yw Prif Weithredwr Llamau, elusen sy’n cynnig lle diogel i bobl ifanc a menywod aros.
Mae Alice Roberts (BSc 1994, MBBCh 1997) yn anthropolegydd biolegol, anatomydd clinigol, awdur ac yn ddarlledwraig. Mae hi wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o raglenni teledu a radio sy’n ymwneud â gwyddoniaeth yn ogystal ag ysgrifennu wyth o lyfrau poblogaidd am wyddoniaeth.
Siaradwr blaengar ym maes iechyd cyhoeddus yw’r Athro Syr Mansel Aylward CB. Mae ei yrfa nodedig yn cynnwys swyddi fel Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrif Swyddog Meddygol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar hyn o bryd, mae’n cadeirio Comisiwn Bevan a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae Eddie Izzard yn ddigrifwr, actor, awdur a rhedwr marathon. Yn ddiweddar, derbyniodd ganmoliaeth fawr am ei berfformiad yn y ffilm Victoria and Abdul, ac mae ei sioe gomedi hynod boblogaidd, Force Majeure, wedi’i chynnal mewn dros 30 o wledydd.
James Goldston (PgDip 1991), cyn-fyfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, dechreuodd ei yrfa mewn teledu fel cynhyrchydd ar gyfer nifer o raglenni Newyddion y BBC, gan gynnwys BBC Newsnight, a Panorama. Cafodd ei enwi’n Llywydd ABC News ym mis Ebrill 2014 ac mae’n goruchwylio pob agwedd ar yr adran newyddion.
Mae Strive Masiyiwa (BEng 1985) yn ddyn busnes a dyngarwr o Zimbabwe sy’n byw yn Llundain. Ef yw sefydlydd a chadeirydd gweithredol Econet Wireless ac mae’n aelod o Banel Cynnydd Affrica.
Mae Jonathan a Karen Hodge yn ymddiriedolwyr i Sefydliad Hodge, sy’n berchen ar 79% o grŵp busnesau Hodge. Elusen yw Sefydliad Hodge, a’i chenhadaeth yw creu grantiau i wella bywydau pobl sy’n profi amddifadedd, salwch meddyliol neu gorfforol, allgáu cymdeithasol neu anfantais arall.
Mae Michael Sheen OBE yn actor sgrîn a llwyfan o Gymru sydd wedi ymddangos mewn tair ffilm sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Academi’r Ffilm Orau, ac mae wedi ennill llu o wobrau am ei berfformiadau ar y llwyfan. Mae’n cael ei gydnabod yn eang fel actifydd effeithiol hefyd, drwy rolau fel Llysgennad UNICEF. Mae Michael bellach yn dechrau ei fudiadau cymdeithasol ei hun.
Artist blaengar o Gymru a hanesydd celf yw Dr Ivor Davies, ac mae wedi cynnal tua 50 o arddangosfeydd unigol a 100 ar y cyd. Ac yntau’n ganolog i fudiad Difrod mewn Celf, a grŵp Beca Cymru’n fwy diweddar, mae’n cyflwyno gwobr flynyddol Ivor Davies yn yr Eisteddfod.
Dilys Price OBE (Cynfyfyriwr BEd) yw nenblymiwr solo benywaidd hynaf y byd, a chyn ymddeol roedd hi’n darlithio mewn Dawns Addysgol Gyfoes. Ym 1998, sefydlodd Ymddiriedolaeth Touch: dyma elusen sy’n cynnig rhaglenni symud creadigol ac unigol i unigolion ag awtistiaeth, dementia ac anableddau dwys.
Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yw Matt Jukes. Mae ei bwyslais ar blismona lleol a diwygio gweithdrefnau cefn swyddfa wedi cefnogi un o gwtogiadau rheng-flaen lleiaf yn y DU.
Mae Dr Steve Garnett (BSc 1980) wedi bod yn aelod o dîm rheoli gweithredol tri busnes meddalwedd newydd, ac mae pob un o’r rhain wedi troi’n un o’r cwmnïau meddalwedd mwyaf llwyddiannus erioed. Bellach, mae’n rheoli ei bortffolio o fuddsoddiadau mewn amrywiaeth o gwmnïau sy’n tyfu’n gyflym.
Manylion y seremonïau Cymrodoriaeth er Anrhydedd:
Stephen Tomlinson: Dydd Llun 15 Gorffennaf, 10am
Frances Beecher: Dydd Llun 15 Gorffennaf, 1.15pm
Alice Roberts: Dydd Llun 15 Gorffennaf, 4.30pm
Syr Mansel Aylward: Dydd Mawrth 16 Gorffennaf, 2.45pm
Eddie Izzard: Dydd Mawrth 16 Gorffennaf, 5.30pm
James Goldston: Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019, 10am
Strive Masiyiwa: Dydd Mercher 17 Gorffennaf, 1.15pm
Jonathan a Karen Hodge: Dydd Iau 18 Gorffennaf, 9.15am
Michael Sheen: Dydd Iau 18 Gorffennaf, 2.45pm
Ivor Davies: Dydd Iau 18 Gorffennaf, 5.30pm
Dilys Price: Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 10am
Matt Jukes: Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 1.15pm
Steve Garnett: Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 4.30pm