Lleihau’r defnydd o wrthfiotigau
11 Gorffennaf 2019
Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen a Choleg y Brenin, Llundain, gall prawf gwaed pigiad bys syml helpu i atal rhoi gwrthfiotigau diangen i bobl â chyflwr rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
Gyda chyllid gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol, dangosodd y tîm bod llai nag 20% o bobl yn defnyddio gwrthfiotigau ar gyfer achosion newydd o COPD o ganlyniad i ddefnyddio prawf gwaed pigiad bys CRP. Yn bwysicaf oll, ni chafodd y gostyngiad hwn mewn defnydd o wrthfiotigau effaith negyddol ar wellhad claf dros y pythefnos cyntaf ar ôl eu hymgynghoriad mewn meddygfa, nac ar eu lles neu ddefnydd o’r gwasanaethau gofal iechyd dros y chwe mis dilynol.
Gallai gostwng y defnydd o wrthfiotigau yn y modd hwn helpu i frwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.
Mae dros filiwn o bobl yn dioddef o COPD yn y DU. Mae’n gyflwr ar yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag ysmygu a llygryddion amgylcheddol eraill. Mae pobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn aml yn profi’r cyflwr yn gwaethygu, neu achosion o’r cyflwr yn ailgychwyn, a phan fydd hyn yn digwydd, rhagnodir gwrthfiotigau i dri o bob pedwar claf. Fodd bynnag, nid heintiau bacteriol sy’n achosi dwy ran o dair o’r achosion hyn ac yn aml, nid yw gwrthfiotigau o fudd i’r claf.
Dywedodd Nick Francis, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae llywodraethau, comisiynwyr, clinigwyr a chleifion sy’n byw gyda COPD ar draws y byd yn mynd ati ar fyrder i chwilio am ffyrdd o’u helpu i wybod pryd mae hi’n ddiogel atal gwrthfiotigau a chanolbwyntio ar ddefnyddio triniaethau eraill er mwyn trin achosion o’r cyflwr.
“Ystyrir bod y cleifion yn wynebu risg uchel os nad ydynt yn cael gwrthfiotigau. Ond, fe lwyddon ni i sicrhau gostyngiad yn y nifer sy’n defnyddio gwrthfiotigau, ac mae hyn tua dwywaith cymaint â’r hyn a gyflawnwyd gan ymyriadau stiwardiaeth gwrthficrobaidd, gan ddangos bod hyn yn ddull diogel.”
Mae’r prawf pigiad bys yn mesur protein C-adweithiol (CRP). Dynodwr llid yw hwn sy’n codi yn gyflym yn y gwaed mewn ymateb i heintiau difrifol. Yn ôl pob golwg, nid yw triniaeth wrthfiotig o lawer o fudd i bobl sydd ag achos o COPD sy’n gwaethygu ac sydd â lefel isel o CRP yn y gwaed.
Dywedodd yr Athro Chris Butler o Brifysgol Rhydychen: “Mae’r treial clinigol trylwyr hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â’r ystyriaethau dybryd canlynol; cadw budd ein gwrthfiotigau presennol; potensial gofal haenedig a mwy personol; pwysigrwydd tystiolaeth gyd-destunol addas am brofion pwynt gofal wrth leihau defnydd diangen o wrthfiotigau, a; gwella ansawdd gofal ar gyfer pobl sydd â chyflwr cyffredin clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.
Jonathan Bidmead a Margaret Barnard oedd cynrychiolwyr y cleifion a’r cyhoedd yn astudiaeth PACE, gan roi llais i gleifion â COPD: Dywedodd Jonathan Bidmead: “Mae angen i ni bwysleisio nid yn unig faint o bobl mae gwrthfiotigau’n eu gwella, ond hefyd bod nifer yn cael eu niweidio drwy ddefnyddio gwrthfiotigau yn ddiangen. Fel dioddefwr COPD, rwy’n ymwybodol bod gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio fel mater o drefn os oes unrhyw arwydd bod y cyflwr yn gwaethygu: mae’r astudiaeth hon yn dangos y gall meddygon ddefnyddio prawf pigiad bys mewn ymgynghoriad i adnabod y sefyllfaoedd lle gall gwrthfiotigau achosi fwy o ddrwg na da. Gall hyn ein helpu i ganolbwyntio ar driniaethau eraill a allai fod yn fwy defnyddiol os bydd y cyflwr yn gwaethygu.”
Dywedodd yr Athro Hywel Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd NIHR: “Mae hon yn astudiaeth hollbwysig sy’n cyflwyno tystiolaeth glir y gallai cynnal prawf gwaed syml mewn meddygfa ar bobl sy’n cael achosion dilynol o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, olygu bod llai o wrthfiotigau’n cael eu rhagnodi yn ddiangen, a bod modd gwneud hynny heb effeithio ar eu gallu i wella. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i fynd i’r afael â pheryglon ehangach iechyd byd-eang o ymwrthedd gwrthficrobaidd.
“Mae NIHR wedi ymrwymo i gynnal ymchwil mewn meysydd iechyd sydd â’r angen mwyaf, fel ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r astudiaeth hon yn un o sawl un yr ydym wedi’i hariannu dros y blynyddoedd diwethaf yn y maes hollbwysig hwn, yn ein hymdrech barhaus i fynd i’r afael â’r bygythiad byd-eang.”
Mae’r gwaith ymchwil ‘C-reactive Protein Guided Antibiotic Prescribing for COPD Exacerbations’ wedi’i gyhoeddi yn New England Journal of Medicine.