Ar y blaen ym maes astudiaethau Canoloesol
11 Gorffennaf 2019
Arbenigwyr o Gaerdydd yn rhannu eu harbenigedd mewn Cyngres Ganoloesol Ryngwladol
Mae deg arbenigwr o’r Brifysgol wedi bod yn arwain trafodaethau yng Nghyngres Ganoloesol Ryngwladol 2019 yr haf yma.
Unwaith eto bu ysgolheigion o Ysgolion Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn rhoi cyflwyniadau yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod, gan dynnu ar eu trefniadau cydweithio gyda’r Ganolfan Cymdeithas a Diwylliant Canoloesol, Grŵp Ymchwil Ganoloesol Ewrop, Canolfan y Croesgadau yng Nghaerdydd a Menter Ymchwil Ganoloesol a Modern Cynnar Caerdydd.
Trefnodd Dr Nic Baker-Brian sesiwn o dan faner y Ganolfan Crefydd a Diwylliant Hynafol Hwyr, ac fel rhan o hynny cyflwynodd bapur hefyd ar bortreadau imperialaidd yn Ymerodraeth Cystennin.
Bu’r hanesydd Dr Jenny Benham yn cadeirio dwy sesiwn ar Ryfel, Heddwch a Diplomyddiaeth, trefnodd dair sesiwn fel rhan o’i phrosiect Lleisiau’r Gyfraith, a chyflwynodd bapur yn y trydydd o’r rhain ar Gytuniadau a Materoliaeth Datrys Gwrthdaro.
Cadeiriodd yr archaeolegydd Dr Ben Jervis sesiwn arFateroliaeth Bywyd Pob Dydd, a hefyd bu’n trefnu ac yn annerch mewn ail sesiwn ar yr un pwnc. Fe wnaeth Dr Alice Forward, Cydymaith Ymchwil a chynfyfyriwr, gyflwyniad hefyd ar statws a diwylliant materol gan gyfeirio at y prosiect Safonau Byw a Diwylliant Materol.
Bu’r hanesydd Dr Bronach Kane yn cymryd rhan mewn trafodaeth bord gron ar Cyn-neiniau, dan gadeiryddiaeth y cynfyfyriwr Dr Victoria Leonard.
Bu’r Athro Hanes Canoloesol Helen Nicholson yn trefnu ac yn cadeirio pedair sesiwn ar Darddiad yr Urddau Milwrol-Grefyddol o dan faner Canolfan y Croesgadau yng Nghaerdydd, a chyflwynodd bapur ar y Frenhines Sybil o Jerwsalem fel rhan o Dulliau Newydd o ymdrin â’r Drydedd Groesgad.
Cyflwynodd yr arbenigwr iaith Dr Sara Ponz-Sanz bapur ar glosiau a rhestrau geirfa cyfreithiol Hen Saesneg a Saesneg Canol.
Cyflwynodd y Darllenydd mewn Hen Hanes Dr Shaun Tougher bapur ar Menalogion Ymerawdwr Bysantiwm, Basil II.
Cyflwynodd yr Athro Emerita Helen Phillips bapur ar y ‘Nut Brown Maid’ (c.1502) ac enghreifftiau diweddarach o ‘Maid Marian’.
O dan faner Archwilio Llwybr y Gorffennol, trefnodd Dr Paul Webster bum sesiwn ar Thomas Becket a chadeirio sesiwn arall, tra bu’r tiwtor Charlotte Pickard yn cyflwyno yn y sesiwn Strategaethau Priodas ac Etifeddesau Bonheddig.
Roedd cynrychiolaeth gref o blith cynfyfyrwyr a myfyrwyr PhD cyfredol, gan fod Lisa Backhouse, Mary Bateman, Greg Leighton, William Lewis, Ben Morris, Victoria Shirley, Ewan Short, a Mark Truesdale yn cyflwyno papurau. Bu’r myfyriwr PhD cyfredol Mari-Liis Neubauer hefyd yn cyflwyno papur o dan aden Canolfan Astudiaethau Canoloesol Graddedig Prifysgol Reading.
Eleni roedd y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol (1-4 Gorffennaf, Prifysgol Leeds) yn cynnwys dros 2,000 o bapurau, a daeth ysgolheigion rhyngwladol o fwy na 60 o wledydd i fforwm fwyaf Ewrop ar gyfer rhannu syniadau ym maes astudiaethau canoloesol.