Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i’r afael â thlodi a chaethwasiaeth fodern ym Mrasil

9 Gorffennaf 2019

Meeting in Cardiff University Glamorgan Building Council Chamber

Bu Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn croesawu dirprwyaeth o academyddion ac erlynwyr cyhoeddus ar ymweliad o Frasil ym mis Mehefin 2019 ar gyfer cyfres o weithdai a chyfarfodydd i drafod tlodi a chaethwasiaeth fodern ym Mrasil.

Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys academyddion uwch ym meysydd cyfraith gyfansoddiadol, hawliau dynol ac addysg, ynghyd ag erlynydd o’r Weinyddiaeth Lafur Gyhoeddus, Gustavo Accioly.

Yn eu plith roedd cynrychiolwyr o Brifysgol Campinas, Prifysgol Sao Paulo, Prifysgol Ffederal Minas Gerais, Faculdade de Direito do Sul de Minas, y Brifysgol Gatholig Archesgobol a Phrifysgol Londrina.

Roedd yr ymweliad yn rhan o brosiect gan Dr Will Baker a Dr Shailen Nandy, a ariannwyd gan GCRF, ar fesur tlodi aml-ddimensiwn ym Mrasil, ac yn parhau â threfniant cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Campinas (UNICAMP), wedi i bartneriaeth strategol gael ei llofnodi ym mis Rhagfyr 2018.

Cynhaliwyd gweithdy i drafod sefyllfa bresennol caethwasiaeth fodern ym Mrasil, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddod â’r arfer i ben yn niwydiant ffasiwn Brasil.  Amlygodd pob siaradwr etifeddiaeth hirhoedlog caethwasiaeth hanesyddol ym Mrasil, a’r berthynas ddi-ildio rhwng hiliaeth, tlodi a chaethwasiaeth.

Cafwyd cyflwyniad gan Andrew Davies, Uwch Swyddog Ymchwilio Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur y Deyrnas Unedig, ar broblem gynyddol caethwasiaeth fodern yn y Deyrnas Unedig, a’r ymchwiliadau niferus sydd ar waith mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad.  Roedd cynrychiolwyr yn bresennol o Ysgolion y Gwyddorau Cymdeithasol, Newyddiaduraeth, Ieithoedd Modern, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a Busnes.

Roedd yr ymweliad wythnos o hyd yn gyfle i ddatblygu rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer ymchwilwyr sy’n rhannu diddordeb mewn tlodi, hawliau dynol, digartrefedd a chyfiawnder cymdeithasol.  Bu Joanna Mack, Cymrawd Ymchwil Uwch ar ymweliad â Phrifysgol Bryste, a’r Athro David Gordon, Cyfarwyddwr Sefydliad Townsend ar gyfer Ymchwil Tlodi Rhyngwladol a Sefydliad Tlodi Bryste, yn cwrdd â’r cynrychiolwyr yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno’u gwaith ar sawl degawd o dlodi.

Yn ystod y cyfarfod hwn trafodwyd sut gallai dulliau a ddatblygwyd i’w defnyddio yn y Deyrnas Unedig gael eu haddasu a’u mabwysiadu i wella’r dull o fesur tlodi aml-ddimensiwn ym Mrasil.

Cyfarfu’r ddirprwyaeth â seneddwyr sy’n gweithio ar fater caethwasiaeth fodern, gan gynnwys Maria Miller AS a Florence Gildea, aelod o staff Frank Field AS, a fu fel ei gilydd yn cynnal adolygiad o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern y Deyrnas Unedig yn 2015.  Cafwyd cyfarfod hefyd gyda Dr Malu Gatto o Sefydliad UCL Cyfandiroedd America, a staff Freedom Fund, un o’r sefydliadau anllywodraethol mwyaf sy’n gweithio i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern ar draws y byd.

Dywedodd Dr Will Baker, a drefnodd yr ymweliad: “Roedd y grant GCRF yn fodd i mi, sy’n academydd gyrfa gynnar, reoli prosiect yn llwyddiannus gyda chydweithwyr rhyngwladol ac arbenigwyr yn eu meysydd. Mae wedi golygu y gallwn ni wneud gwaith ymchwil pwysig, sy’n cael effaith, gyda chydweithwyr ym Mrasil, a datblygu perthnasoedd a fydd yn fwy perthnasol fyth wedi Brexit.”

Dywedodd yr Athro Ana Elisa Spaolonzi Queiroz Assis o UNICAMP a Faculdade de Direito do Sul de Minas, Prif Ymchwilydd y prosiect ym Mrasil: “Roedd yn brofiad pwysig iawn cael datblygu’r prosiect hwn ar y cyd rhwng UNICAMP a Phrifysgol Caerdydd, trwy gefnogaeth y GRCF.  Mae’r thema - tlodi ac amddifadedd - yn berthnasol ar raddfa fyd-eang a lleol y dyddiau hyn; bydd gwybod am y Dull Gweithredu Cydsyniol a’i ddefnyddio yn gwella ein persbectifau ymchwil ansoddol ar y pwnc.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.