Y Darlithydd Dr Marie Davidová yn cyflawni patent ar gyfer cynnyrch Ray
8 Gorffennaf 2019
Roedd Ray yn rhan o ymchwil PhD Marie i ryngweithiad pren caled perfformiadol a gyflwynwyd ar gyfer patent yn 2013.
Mae Ray yn sgrin bren galed hygrosgopig sy’n crasu mewn tywydd poeth a sych wrth amgáu lleithder cymharol uchel a thymheredd isel o ganlyniad i’w sail fiolegol. Mae ‘Ray’ wedi’i gynllunio ar gyfer gorchudd to a ffasâd mewn mannau lled-fewnol; mae'r paneli ar y sgrîn yn cael eu torri mewn darnau ymylol sy'n adweithio i'r hinsawdd wrth gamdroi.
Mae gweithdy gwaith saer Defio, s.r.o. wedi bod yn cydweithio ar y prosiect. Ar hyn o bryd mae Marie yn gweithio gyda'r pensaer Jan Trejbal o gwmni pensaernïol Neolokator er mwyn rhoi’r cynnyrch ar waith yn y filas y mae wedi bod yn eu ddatblygu’n ddiweddar yn Czechia.
Dywedodd Marie: “Ar ôl y cyhoeddiad am y patent, rwy'n dechrau derbyn ceisiadau am gynhyrchion Ray. Bydd yn gyfnod cyffrous pan fydd fy ymchwil hirdymor yn dwyn ffrwyth o'r diwedd! ”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ray yma