Diferion ogofâu yn rhoi cipolwg ar hinsoddau’r gorffennol
8 Gorffennaf 2019
Mae cemeg dŵr diferion sy’n ffurfio stalagmidau a stalactidau mewn ogofâu ledled y byd wedi rhoi cipolwg ar hinsoddau’r gorffennol i ymchwilwyr.
Yn y dadansoddiad byd-eang cyntaf erioed o ddŵr diferion ogofâu, mae tîm rhyngwladol, a arweinir gan Andy Baker o UNSW Awstralia ac sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi ymchwilio i sut gall stalagmidau a stalactidau ddangos sut mae cronfeydd dŵr daear wedi ail-lenwi yn y gorffennol.
Dŵr daear, a geir o dan y ddaear yn yr holltau a'r mandyllau mewn craig a gwaddodion, yw'r ffynhonnell fwyaf yn y byd o ddŵr croyw y gellir ei ddefnyddio. Mae mwy na dwy filiwn o bobl yn dibynnu arno fel ffynhonnell dŵr yfed a dŵr dyfrhau.
Mae ffynonellau dŵr daear yn cael eu hailgyflenwi yn bennaf trwy'r glaw mewn proses a elwir yn ail-lenwi. Ar yr un pryd, mae dŵr yn gadael neu'n gollwng o ffynonellau dŵr daear i lynnoedd, nentydd a chefnforoedd, gan gynnal cydbwysedd cyffredinol.
Os bydd newid yn y broses o ail-lenwi, er enghraifft oherwydd gostyngiad mewn glaw o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bydd lefelau dŵr yn y ddaear yn dechrau newid hyd nes y bydd yn cyrraedd cydbwysedd newydd.
Fodd bynnag, mae cwestiynau'n parhau ynghylch sut y bydd dŵr yn cael ei effeithio'n benodol gan newidiadau’r hinsawdd yn y dyfodol, a ble a phryd bydd unrhyw newidiadau yn digwydd.
Er mai anodd oedd canfod newidiadau mewn lefelau dŵr daear y gorffennol yn hanesyddol, yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi gwneud cynnydd drwy ddefnyddio dulliau newydd sy’n defnyddio stalactidau a stalagmidau.
O ran isotopau o ocsigen, mae cyfansoddiad stalagmidau a stalactidau a geir mewn ogofâu’n gallu cynnig awgrymiadau gwerthfawr am hinsoddau’r gorffennol.
Mae’r ocsigen hwn yn dod o’r dŵr sy’n diferu o’r stalactidau ar y stalagmidau. Yn wreiddiol, mae dŵr y diferion yn dod o law, sy’n cynnig cysylltiad uniongyrchol â hinsawdd yr arwyneb.
Mae deall sut mae cyfansoddiad dŵr daear yn gysylltiedig â glaw o ran isotopau ocsigen yn gwestiwn ymchwil sylfaenol fydd yn datgloi potensial llawn stalagmidau a stalactidau o ran dehongli hinsoddau’r gorffennol.
Yn eu hastudiaeth, ystyriodd y tîm 163 o safleoedd mewn 39 o ogofâu ar bum cyfandir, a chymharodd gyfansoddiad dŵr diferion o ran isotopau ocsigen â’r dŵr glaw a'r dŵr daear a ail-lanwyd.
Mewn hinsoddau oer, roedd cyfansoddiad dŵr diferion ogofâu’n debyg i ddŵr glaw o ran isotopau ocsigen, sy’n golygu y gallai isotopau ocsigen stalagmidau gynnig gwybodaeth am lawiadau’r gorffennol yn y rhanbarthau hyn.
Mewn hinsoddau twymach a rhai sy’n dymhorol iawn, roedd cyfansoddiad dŵr diferion ogofâu yn debyg i fodelau o gronfeydd dŵr daear o ran isotopau ocsigen. Golyga hyn fod diferion ogofâu’n cynnwys gwybodaeth am ail-lenwad cronfeydd dŵr daear yn y rhanbarthau hyn yn y gorffennol.
Dywedodd Dr Mark Cuthbert, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, a chyd-awdur yr astudiaeth: “Mae’r canlyniadau hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer dehongli cofnodion stalagmidau mewn rhanbarthau sych sy’n adlewyrchu sut ail-lenwodd cronfeydd o ddŵr daear. Gall hyn ein helpu i ddeall y berthynas rhwng amrywioldeb hinsoddol ac adnoddau dŵr mewn rhannau’r byd lle mae prinder naturiol o ddŵr, a llywio strategaethau rheoli dŵr yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd.”