Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres o ddarlithoedd Sbaeneg newydd yn dechrau gyda chipolwg ar Almodóvar

8 Gorffennaf 2019

Gwnaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern gynnal y gyfres gyntaf o ddarlithoedd i ddathlu diwylliant Sbaen y mis Mai hwn.

Cynhaliwyd y ddarlith Katherine of Aragon agoriadol (a enwyd ar ôl llysgennad y Goron Aragonaidd i Lundain ym 1507, y llysgennad benywaidd cyntaf yn hanes Ewrop) ar 9 Mai a chroesawyd yr Athro Maria Delgado o Brifysgol Llundain i Gaerdydd.

Gwnaeth yr Athro Delgado, sy’n Gyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Frenhinol Ganolog Lleferydd a Drama, ddarlith ryfeddol o graff, sef All About Almodóvar: Interviews, Observation and Analysis ar sinema Pedro Almodóvar, un o’r cyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw yn Sbaen yn ogystal ag Ewrop.

Rhannodd yr Athro Delgado fewnwelediadau o gael mynediad breintiedig i set ffilm ddiweddaraf Pedro Almodóvar sef Dolor y Gloria (Poen a Gogoniant), sydd eisoes wedi’i dangos yn Sbaen ac sy’n ymddangos am y tro cyntaf yn y DU ym mis Awst. Daeth myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd i’r sgwrs, a ddilynwyd gan drafodaeth holi ac ateb fywiog a aeth i’r afael â chwestiynau sy’n gysylltiedig â ffeministiaeth a natur weladwy LGBT.

Mae’r Athro Delgado yn awdur a golygydd sawl llyfr ar y celfyddydau perfformio a sinema yn Sbaen ac America Ladin, ac mae ganddi gryn brofiad fel ymgynghorydd rhaglenni mewn sinemâu Sbaeneg a Sbaeneg-Americanaidd ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Llundain, yn ogystal â gwaith curadu a rhaglennu i’r Sefydliad Celfyddydau Cyfoes a Sefydliad Ffilmiau Prydain.

Cefnogwyd darlith yr Athro Delgado yn hael gan Lysgenhadaeth Sbaen. Gwnaeth Llysgennad Sbaen, Carlos Bastarreche, ymweld â’r Ysgol yn 2018 a gweld dros ei hun y ganolfan lewyrchus ar gyfer astudiaethau ieithoedd modern israddedig ac ôl-raddedig. Manteisiodd Mr Bastarreche hefyd ar y cyfle i ymweld â’r Swyddfa Addysg Sbaeneg, sydd â sylfaen loeren yn yr Ysgol, ac mae’n noddi un o’n mannau addysgu. Yn dilyn ymweliad Mr Bastarreche, penderfynwyd y byddai darlith Katherine of Aragon yn cael ei chynnal bob blwyddyn gyda chefnogaeth gan Lysgenhadaeth Sbaen.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Dr Ryan Prout, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd, a gyflwynodd ddarlith yr Athro Delgado, “Rydym yn hynod falch o lansio ein cyfres o ddarlithoedd Katherine of Aragon.” Mae’r hinsawdd ar gyfer ieithoedd modern yn un heriol ar hyn o bryd, ac er gwaethaf hyn, mae Sbaeneg yn parhau i dyfu ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth y Llysgenhadaeth i’n gwaith, sy’n sicrhau bod oddeutu 70 o fyfyrwyr yn graddio gyda gradd anrhydedd sengl neu ar y cyd mewn Sbaeneg bob blwyddyn, yn ogystal â’u cymorth moesol ac ymarferol.”

Rhannu’r stori hon