Ewch i’r prif gynnwys

Taith i’r blaned Mawrth i 250 o ddisgyblion

5 Gorffennaf 2019

Mars

Cynlluniodd dros 250 o ddisgyblion o ysgolion ledled de-ddwyrain Cymru daith i’r blaned Mawrth yn rhan o ddigwyddiad allgymorth STEM dau ddiwrnod a gynhaliwyd gan y Brifysgol.

Rhoddodd STEMLive y cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 8 o 14 ysgol gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol a arweiniwyd gan ymchwilwyr o’r Brifysgol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad.

Ystyriodd y disgyblion y problemau y gallai pobl eu hwynebu wrth fyw ar y blaned Mawrth, fel sut i gynhyrchu trydan, lle i fyw a sut i gadw’n iach.

Actorion o Yello Brick productions a roddodd fod i’r daith i’r blaned Mawrth, gan annog creadigrwydd a dysgu ymysg y disgyblion.

Roedd adborth yr athrawon yn hynod gadarnhaol, ac yn eu tyb nhw, roedd y digwyddiad yn ffordd ysbrydoledig a ffantastig o roi egwyddorion STEM ar waith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Meddai Deborah Syrop, cydlynydd STEMLive y Brifysgol: “Fe greon ni STEMLive i arddangos ehangder y gyrfaoedd sydd ar gael drwy astudio pynciau gwyddonol a mathemategol.

“Mae defnyddio’r blaned Mawrth fel thema yn galluogi’r disgyblion i ddechrau o ddim wrth iddynt ffurfio syniadau. Fodd bynnag, mae’r rhain yn heriau yr ydym yn eu hwynebu ar y Ddaear, ac yn faterion y bydd angen i’w cenhedlaeth fynd i’r afael â nhw.

“Mae elfen gydweithredol amlwg i yrfaoedd lle mae angen i bobl â gwahanol arbenigeddau weithio gyda’i gilydd. Mae’r sgiliau sy’n dod o astudio pynciau STEM yn werthfawr ac yn hynod drosglwyddadwy.”

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.