Ewch i’r prif gynnwys

Mytholeg Gymraeg yn creu argraff sylweddol ar draws yr Iwerydd

3 Gorffennaf 2019

Trailing Rhiannon workshop

Mae myfyrwraig Americanaidd yn dysgu am ei threftadaeth Gymreig drwy ymchwilio i chwedlau’r Mabinogion.

Myfyrwraig ôl-raddedig sy’n ​​rhan o raglen Ysgoloriaeth Fulbright yw Emma Watkins – mae ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod ei blwyddyn israddedig olaf ym Mhrifysgol Princeton, datblygodd ddrama o'r enw Trailing Rhiannon, cynhyrchiad s’yn ail-ddychmygu Cainc Gyntaf y Mabinogi o safbwynt y prif gymeriad benywaidd.

Mae’r ddrama, a berfformiwyd yn wreiddiol ger ei chartref yn New Jersey,  wedi’i datblygu ymhellach yn ystod ei blwyddyn ôl-raddedig, dan nawdd Ysgol Gymraeg y Brifysgol ac ar y cyd â Chanolfan Celfyddydau Chapter. Yn dilyn gweithdy pedwar diwrnod a oedd yn cynnwys unigolion creadigol o'r llwyfan Cymreig, cafwyd perfformiad cyhoeddus, ac adborth wedi hynny gan y gynulleidfa.

Mae’r Mabinogion, sef yr enw a roddir ar gasgliad o 11 chwedl ganoloesol, wedi'u diogelu'n bennaf mewn llawysgrifau o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ond mae eu gwreiddiau'n ddwfn yn y traddodiad llafar, ac maent wedi esblygu dros ganrifoedd cyn cyrraedd eu ffurf ysgrifenedig derfynol.

Mae teulu ei thad, Paul, yn hanu o Sir Benfro. Dywedodd Emma: “Roedd fy mrawd a minnau yn ffodus iawn i gael ein magu gyda thad a oedd yn nofelydd ac yn storïwr ardderchog, a hefyd yn hyddysg yn chwedlau Cymru.

“Ar deithiau hir yn y car, byddai'n ein diddanu â straeon o'r Mabinogi. Byddai’n ychwanegu ei atgofion personol o Gymru, a phytiau o hanes y teulu.  O ganlyniad, roedd Cymru bob amser yn chwarae rhan bwysig ym mytholeg fy nheulu.

“Ar wahân i fy nheulu, ychydig iawn o aelodau'r gynulleidfa gartref oedd wedi clywed am y Mabinogi - ond mynegodd llawer ohonynt eu diddordeb mewn dysgu mwy ar ôl gweld y sioe. Mae'r gweithdy ymchwil a datblygu yng Nghaerdydd wedi ein galluogi i edrych ar sut mae’r ddrama yn berthnasol yn y Gymru gyfoes, a rhannu'r addasiad theatrig hwn â Chymry a dyfodd i fyny gyda'r Pedair Cainc.”

Emma with her father, Peter
Emma gyda’i thad, Paul.

Clywodd Emma am Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wrth ddarllen cyfieithiad yr Athro Sioned Davies o’r Mabinogion. Yr Athro Davies sydd wedi bod yn goruchwylio a mentora Emma yn ystod ei chyfnod yng Nghaerdydd.

Yn dilyn y perfformiad o’r ddrama ar ei wedd ddiweddaraf, mae Emma bellach yn gobeithio y gellir ei dangos i gynulleidfaoedd newydd - yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd: “Er bod stori Rhiannon wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn y Mabinogi a thirwedd Cymru, mae hefyd yn stori sy'n berthnasol ar draws y byd –  hanes merch gryf sy’n defnyddio ei llais i chwilio’i ffordd trwy anghyfiawnderau...”

“Rwy'n gobeithio y bydd rhannu stori Rhiannon â chynulleidfaoedd ehangach yn ysbrydoli storïwyr benywaidd cyfoes, ac ar yr un pryd yn annog ymgysylltiad ehangach â llenyddiaeth a diwylliant Cymru.”

Emma Watkins

Dywedodd yr Athro Sioned Davies o Ysgol y Gymraeg: “Braint oedd gweithio gyda myfyrwraig mor greadigol ac ymroddedig. Mae addasiad arloesol Emma yn amlygu hyblygrwydd ein rhaglen Meistr, gan ganiatáu iddi gyfuno ymchwil academaidd â gwaith maes (cyfweld â storïwyr cyfoes) ac ysgrifennu creadigol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.