Diffyg cyllidol Cymru yn symptom o refeniw is, yn ôl adroddiad
2 Gorffennaf 2019
Heddiw (2 Gorffenaf), bydd arbenigwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dadansoddi cyflwr cyllid cyhoeddus Cymru.
Yng nghynhadledd gyntaf Dadansoddi Cyllid Cymru bydd ymchwilwyr yn datgelu canfyddiadau o’u hadroddiad nesaf, Gwariant a Refeniw Llywodraethol Cymru 2019. Mae eu ymchwil yn rhoi dadansoddiad manylach o ffigurau diweddar gan Swyddfa’s Ystadegau Gwladol sy’n dangos bod balans cyllidol Cymru – y gwahaniaeth rhwng cyfanswm gwariant cyhoeddus dros Gymru ac amcangyfrif o refeniw cyhoeddus – yn cyfateb i ddiffyg o £13.7 biliwn, neu 19.4% o GDP Cymru. Mae’r ffigwr hwn yn cymharu â diffyg o 2% o GDP ar gyfer y DG gyfan.
Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Er bod diffyg cyllidol Cymru wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae Swyddfa’r Ystadegau Gwladol yn cyfrifo bod bwlch cyllidol o £4,380 y person yng Nghymru, o’i gymharu â chyfartaledd o £630 ar draws y DG.
- Prif achos y diffyg yng Nghymru yw refeniw is, sydd tua 76% o gyfartaledd y DG fesul person. Mae refeniw o dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol tua £1,690 y person yn is na chyfartaledd y DG fesul person.
- Mae gwariant ar nawdd cymdeithasol £670 yn uwch fesul person yng Nghymru. Mae holl wariant y pen dros Gymru yn cyfateb i 108% o gyfartaledd y DG.
- Mae dadansoddiad o holl ffynonellau gwariant cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod gwariant fesul pen ar raglenni llywodraeth y DG yng Nghymru ar wahân i nawdd cymdeithasol yn sylweddol is na gwariant cymharol yn Lloegr. Yn fwyaf nodedig, mae gwariant cyfalaf, er enghraifft ar seilwaith cyhoeddus newydd, yn is yng Nghymru, yn enwedig ar drafnidiaeth (76% o gyfartaledd y DG) a gwyddoniaeth a thechnoleg (75%).
- Mae cyfanswm gwariant y pen yng Nghymru yn sylweddol is na’r honiad cyson fod “Cymru yn cael £120 am bob £100 sy’n cael ei wario yn Lloegr”. Mae’r 120% hwn yn y lefel hon o wariant yn cyfeirio at gyllid Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd drwy’r bloc grant yn unig. Dim ond 11% yn uwch y mae cyfanswm gwariant y pen yng Nghymru o gymharu â Lloegr.
Dywedodd Dr Ed Gareth Poole, arweinydd academaidd prosiect Dadansoddiad Cyllid Cymru: “Mae anghydbwysedd economaidd rhanbarthol y DG yn parhau i fod mor amlwg ag erioed. Er nad yw trosglwyddiadau rhwng tiriogaethau cyfoethocach a thlotach mewn ardaloedd marchnad sengl yn anarferol yn rhyngwladol, mae’r bwlch ariannol yng Nghymru yn dystiolaeth bellach o gyflwr cymharol wan economi a sylfaen drethu Cymru o’i gymharu â’r DG yn gyffredinol...”
Bydd y tîm ymchwil yn cyhoeddi eu dadansoddiad cyflawn o gyllid cyhoeddus Cymru (Gwariant a Refeniw Llywodraethol Cymru 2019) ddiwedd y mis. Bydd ail adroddiad yn yr Hydref yn dadansoddi sut gellir lleihau bwlch cyllidol Cymru.
Bydd y gynhadledd heddiw yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd hefyd yn cynnwys rhagolygon ar gyfer gwariant ar ysgolion yng Nghymru, effaith llymder ar lywodraeth leol yn ogystal â’r risgiau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan drethi datganoledig.
Dywedodd, Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru: “Mae ein hymchwil yn dangos anghydbwysedd o dan y trefniadau cyfansoddiadol presennol – nid yw’n adlewyrchiad o gyllid Cymru annibynnol.
“Fodd bynnag, o ganlyniad i ddatganoli treth, mae perfformiad cymharol economi a sylfaen drethu Cymru erbyn hyn wedi dod yn ffactor pwysig o ran pennu’r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus Cymru.”