Antur Wyllt Judi Dench i Borneo
2 Gorffennaf 2019
Yn ei chyfres ddogfen newydd sbon i ITV, fe aeth y Fonesig Judi Dench, actor hynod adnabyddus ac uchel iawn ei pharch, i Ganolfan Maes Danau Girang i gwrdd â rhai o’r anifeiliaid cyfareddol sy’n byw yng nghanol coedwigoedd Borneo a chael cipolwg ar bwysigrwydd yr ecosystem unigryw hon i fywyd ein planed.
Ac yntau’n adeilad un llawr diymhongar, wedi'i amgylchynu gan lystyfiant trofannol, nid yw Canolfan Maes Danau Girang yn safle Prifysgol arferol. Yn gyfleuster ymchwil a hyfforddi ar y cyd, a reolir gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Phrifysgol Caerdydd, mae’n ymroi i warchod ecosystemau trofannol a rheoli bywyd gwyllt ar dirwedd cynyddol ddarniog Borneo.
Yn ôl Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang: “Roedd yn rhywbeth mor arbennig i ni yn y Ganolfan i groesawu y Fonesig Judi Dench tra ei bod yn ffilmio ei rhaglen ddogfen. Fe wnaeth gymaint o argraff ac fe wnaethom ni fwynhau treulio ychydig ddyddiau yn ei chwmni.”
Yn ystod ei hymweliad â Borneo a’r Ganolfan Maes, fe gafodd y Fonesig Judi brofiadau anhygoel gydag anifeiliaid gan gynnwys orangwtaniaid, eirth haul, eliffantod, crocodeiliaid a chornylfinod. Fe welodd greaduriaid prydferth yn hedfan fel y mamal gleidio anghyffredin, y Kubong, sy’n gallu hedfan dros 100 metr, a gweld mwy na miliwn o ystlumod, chwilen tail o’r enw Bob a neidr a alwyd yn James Bond.
Dywedodd y Fonesig Judi: “Cefais brofiad mwyaf anhygoel fy mywyd yn ystod y daith hon.
“Mae’r jwngl yn fwy na fyddwn i erioed wedi gallu’i ddychmygu. O amgylch bob cornel, fe welwch ryw greadur rhyfeddol.
“Rydw i wedi dysgu pa mor fregus yw’r lle hyfryd hwn a beth sydd angen i ni ei wneud i’w warchod. Mae’r daith wedi effeithio arna i gymaint, ac rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy newis i fod yn llysgennad ar gyfer ei goedwigoedd glaw.”
Mae’r bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar ITV1 heno (2 Gorffennaf) am 9pm a phennod dau ar 9 Gorffennaf am 9pm.
I ddysgu mwy am waith cadwraeth hanfodol y tîm ymroddedig o wyddonwyr ymchwil o Malaysia a gwledydd eraill yn Danau Girang, ewch i’n tudalennau Canolfan Maes.