Cyfle i chwarae rhan allweddol mewn digwyddiad chwaraeon byd-eang
26 Hydref 2015
Mae cyfle ar gael i fod yn rhan allweddol o lwyddiant digwyddiad chwaraeon pwysig a fydd yn dod â rhai o athletwyr gorau'r byd i Gaerdydd
Mae ar Bencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd, a gynhelir ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth 2016, angen 1,500 o wirfoddolwyr i wneud yn siŵr bod athletwyr a gwylwyr yn cael y diwrnod gorau posibl.
Mae'r 'Gwirfoddolwyr Gwych', neu'r 'Extra Milers' gwirfoddol, yn dilyn ôl traed llwyddiant ysgubol y 70,000 o 'Games Makers' yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, a'r 'Clyde-Siders' yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Mae'r digwyddiad hanner marathon byd-eang, a noddir gan Brifysgol Caerdydd, yn cynnwys y brif ras gyda thros 200 o brif athletwyr, a ras dorfol o 25,000 o redwyr.
Mae cyn-seren Undeb Rygbi Cymru, Richard Parks, sydd bellach yn athletwr amgylchedd eithafol ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd, ymhlith y rheini sy'n cefnogi'r ras.
Dywedodd: "A minnau'n gymrawd er anrhydedd ac yn gynfyfyriwr, mae'n wych cael bod yn rhan o Bencampwriaeth Hanner Marathon y Byd Prifysgol Caerdydd. Mae'n gyfle arbennig i ddangos dinas fawreddog Caerdydd ar ei gorau.
"Ni ellir gorbwysleisio'r effaith y gall digwyddiadau blaenllaw fel hyn ei chael ar Gymru, ac rwy'n falch o gael helpu i gefnogi'r digwyddiad cyffrous hwn.
"Mae hefyd yn gyfle gwych i wirfoddolwyr fod yn rhan o achlysur mor arbennig ac unigryw, a helpu i greu atgofion gwych gyda'r holl athletwyr elitaidd sy'n cymryd rhan."
Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan, gan gynnwys stiwardio'r ras, dosbarthu medalau a bagiau nwyddau, gofalu am orsafoedd dŵr a helpu i sefydlu mannau dechrau a gorffen y ras.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael gwisg Caerdydd 2016 gan y gwneuthurwyr dillad chwaraeon byd-eang, Adidas, ar ôl iddo gadarnhau ei bartneriaeth â'r ras.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn gwneud mwy na dim ond noddi.
Mae iechyd y cyhoedd yn rhan bwysig o waith y Brifysgol. Mae'n gwneud gwaith ymchwil pwysig yn y maes hwn, yn ogystal â hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.
Nod y Brifysgol yw dwyn ynghyd ei chymunedau lleol a'r sector iechyd i hyrwyddo'r manteision yn sgîl byw'n iach ac yn weithgar.
Disgwylir i staff a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol gymryd rhan.
Mae rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd ar gael yn www.cardiff2016.co.uk a gall gwirfoddolwyr gymryd rhan yn y drafodaeth am y digwyddiad ar Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #extramilers.