Airbus yn lansio Canolfan Arloesedd Seiber
26 Mehefin 2019
Mae canolfan arloesedd Airbus sy'n meithrin perthnasedd er mwyn mynd i'r afael â seiberddiogelwch wedi'i lansio yng Nghasnewydd.
Ymunodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC, i nodi agoriad swyddogol y Ganolfan Arloesedd Seiber yng nghyfleuster Airbus yng Nghasnewydd.
Mae'r ganolfan yn gartref i fentrau ymchwil blaenllaw ym maes seiberddiogelwch, canolfannau meithrin, cyflymyddion a phartneriaethau ymchwil academaidd. Ymhlith y prif feysydd ymchwil mae gwarchod rheolaeth ddiwydiannol a systemau sy'n hanfodol o ran diogelwch, deall ffactorau dynol seiberddiogelwch, a deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data.
Yn ôl yr Athro Riordan: "Dyma'r datblygiad cyffrous diweddaraf mewn perthynas hirhoedlog rhwng Airbus, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn hanfodol wrth feithrin cynghreiriau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, ac Ymchwil a Datblygu ar raddfa. Bydd gwaith ymchwil gan academyddion a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhan annatod o'r ganolfan. Mae cyfnewid gwybodaeth a chydweithio yn nodweddiadol o'n perthynas gydag Airbus.
"Rwy'n arbennig o falch â'r ffaith bod cynifer o ddisgyblaethau ar draws y Brifysgol yn ymgysylltu ag Airbus – mae gennym brosiectau yn y gorffennol a'r presennol ym meysydd ffiseg, peirianneg, cyfrifiadureg a seicoleg – a bod ein perthynas o fudd i fyfyrwyr drwy ddarlithoedd gwadd, lleoliadau ac ysgoloriaethau."
Mae partneriaeth Airbus gyda Chaerdydd wedi tyfu o secondiad unigol yr Athro Pete Burnap o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg gydag Airbus dair blynedd yn ôl. Mae Dr Phil Morgan bellach yn rhan o'r Brifysgol, yn ogystal â myfyrwyr PhD wedi'u hariannu a lleoliadau i fyfyrwyr. Bydd Cydymaith Ymchwil yn ymuno â'r tîm cyn bo hir.
"Wrth weithio ar y cyd, mae'r bartneriaeth wedi dwyn dros £5M o fuddsoddiad i Ganolfan Rhagoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch yn y Brifysgol, gan beri i'r maes cymharol newydd hwn o ymchwil i ddatblygu'n un lle rydym yn arwain y DU ac Ewrop," meddai'r Athro Riordan.
Ychwanegodd yr Athro Burnap: "Mae'r Ganolfan Dadansoddeg Seiberddiogelwch wedi ein cydnabod fel un o'u Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd, gan ddefnyddio ein harbenigedd ym maes dadansoddi seiberddiogelwch yn rhan o strategaeth Llywodraeth y DU o atgyfnerthu gwydnwch y wlad yn wyneb ymosodiadau seiber."
Lansiodd Prifysgol Caerdydd y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch gydag Airbus a Llywodraeth Cymru yn 2017. Mae'n uned ymchwil academaidd flaenllaw yn y DU ar gyfer dadansoddeg seiberddiogelwch ac yn datblygu ffyrdd newydd o warchod rhwydweithiau TG corfforaethol, eiddo deallusol ac isadeiledd cenedlaethol hanfodol rhag ymosodiadau seiber.
Yn ôl Dr Kevin Jones, Pennaeth Arloesedd Seiber gydag Airbus: "Mae lansio'r Ganolfan Arloesedd Seiber yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd strategol y rhaglen ymchwil ac arloesedd seiberddiogelwch i Airbus. Mae'n dangos ymrwymiad y cwmni i seiberddiogelwch ac ymchwil i warchod busnes a systemau hanfodol, ac yn cydnabod gwerth yr ecosystem seiberddiogelwch yng Nghymru."