Hybu gallu T-gelloedd sy'n lladd i ddinistrio canser
26 Mehefin 2019
Mae potensial y gall mwy o fathau o ganser gael eu dinistrio gan gelloedd imiwnedd y cleifion eu hunain o ganlyniad i ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Daeth i'r amlwg i'r tîm o ymchwilwyr bod cynyddu faint o foleciwlau L-selectin sydd mewn T-gelloedd yn gallu bod o gymorth mawr er mwyn ymladd tiwmorau cadarn.
Meddai'r Athro Ann Ager, o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: "Mae'r canlyniadau hyn yn golygu y gellir defnyddio imiwnotherapi i ymladd y rhan fwyaf o ganserau. Mae hyn yn newyddion gwych gan fod y math yma o driniaeth yn fwy penodol ac nid yw'n niweidio celloedd iach."
Hyd yma, dim ond ar gyfer cleifion sydd â mathau penodol o lewcemia y mae imiwnotherapi sy'n rheoli T-gelloedd wedi'i ddefnyddio yn y clinig. Gyda'r cleifion hyn, mae celloedd canser yn symud o amgylch eu gwaed, felly mae celloedd imiwnedd a dargedir gan ganser, megis celloedd CAR-T, yn gallu dod o hyd i'r celloedd canser yn rhwydd ac ymosod arnynt. Mae wedi bod lawer yn anoddach trin tiwmorau cadarn gan fod llif y gwaed sy'n eu cyrraedd yn wan, ac nid yw'r pibellau gwaed sydd ynddynt wedi'u ffurfio'n llawn.
Dywedodd yr Athro Ager: "O wybod bod L-selectin yn foleciwl targedu pwysig i T-gelloedd, sy'n cyfeirio eu symudiad o lif y gwaed i feinweoedd llidus, roeddem eisiau gwybod a fyddai cynyddu L-selectin ar T-gelloedd gwrth-ganser yn golygu bod modd targedu'r canser yn haws, ac yn helpu i'w dinistrio.
"Cawsom ein synnu gan y canlyniadau. Er bod cynnydd mewn L-selectin wedi gwella gallu T-gelloedd i ymladd tiwmorau cadarn, nid oedd hyn o ganlyniad i dargedu gwell. Gwnaeth y t-gelloedd a addaswyd gyrraedd y canserau cadarn o fewn yr awr gyntaf a pharhau i gasglu o fewn y canserau cadarn am gyfnod o dros wythnos, gan awgrymu bod L-selectin hefyd yn gyfrifol am ysgogi a chadw t-gelloedd gwrth-ganser y tu fewn i ganserau."
Ychwanegodd Dr John Maher o Goleg y Brenin, Llundain: "Mae'r ymchwil hon, sy'n datgelu rôl newydd ar gyfer L selectin ym maes imiwnotherapi canser yn hynod addawol fel modd newydd o wella effeithlonrwydd imiwnotherapïau celloedd T ar gyfer tiwmorau cadarn."
Mae'r gwaith ymchwil 'L-selectin enhanced T cells improve the Efficacy of Cancer Immunotherapy' wedi'i gyhoeddi yn Frontiers in Immunology.
Cafwyd cyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Meddygol, Ymchwil Canser y DU ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.