Hyrwyddo'r Brifysgol i gynulleidfa yn yr UDA
26 Mehefin 2019
Mae'r manteision i fyfyrwyr yr UDA i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi'u hamlygu yn rhan o raglen i hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru.
Bu pymtheg o ymgynghorwyr addysg yr UDA ar daith i ymweld â'r Brifysgol i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau, cyfleusterau, cyfleoedd, profiad myfyrwyr a'r wlad ei hun.
Roedd yr ymweliad yn rhan o brosiect Cymru Fyd-eang Prifysgolion Cymru i gynnig cefnogaeth strategol i brifysgolion Cymru mewn nifer o farchnadoedd a dargedir ar draws y byd.
Mae'r ymgynghorwyr, sy'n rhoi cyngor i ddarpar fyfyrwyr yn yr UDA, hefyd wedi teithio i brifysgolion eraill Cymru, gyda mwy o ymweliadau wedi'u trefnu blwyddyn nesaf.
Dywedodd Pat Cosh, Rheolwr Rhanbarthol, Americas, yn Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Caerdydd: "Roedd yn ddiwrnod hynod lwyddiannus, a gwych o beth oedd croesawu'r ymgynghorwyr a'r dylanwadwyr hyn i Gaerdydd.
"Rhoddodd yr ymweliad gipolwg iddynt ar y cyfleoedd astudio yng Nghaerdydd, ac roedd hefyd yn gyfle i roi gwybodaeth ar y gweithdrefnau derbyn myfyrwyr, yr ystyriaethau ariannol a'r profiad myfyrwyr yn gyffredinol yng Nghymru.
"Rwy'n siŵr y bydd yr ymwelwyr yn dychwelyd adref i'r UDA i fod yn llysgenhadon dros addysg uwch yng Nghymru, ac i rannu'r newyddion da am gyfleoedd i astudio ymhlith myfyrwyr a chynghorwyr addysg."
Dechreuodd y diwrnod yng Nghaerdydd gyda chroeso i'r Brifysgol a throsolwg o hanes a phroffil y sefydliad.
Aeth y grŵp ar daith o amgylch Sefydliad Catalysis Caerdydd a'r Ysgol Pensaernïaeth, a chael gweld y gromen wybren.
Ar ôl cinio, cafwyd perfformiad ar y piano gan yr Athro Ken Hamilton, pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth.