FLEXIS yn cefnogi cyngor ‘gwyrdd’ arweiniol
25 Mehefin 2019
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol ‘ynni gwyrdd’ gorau yng Nghymru.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod gan y Cyngor y capasiti uchaf ar y cyfan o ran ynni adnewyddadwy a’r cynhyrchiad uchaf o ynni adnewyddadwy ar draws y wlad.
Mae FLEXIS, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy’r Awdurdod drwy ddefnyddio ei ymchwil ar gyfer safle ffisegol yn y sir.
Meddai’r Athro Hywel Thomas, Prif Archwilydd FLEXIS: “Rydym wrth ein boddau’n cydweithio mor agos â Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar nifer o brosiectau sy’n cyfrannu at wireddu dyfodol deallus a charbon-isel. Mae creu swyddi, mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac ansawdd aer yn ddeilliannau sylfaenol i ymchwil FLEXIS.”
Dadlennodd FLEXIS a Chyngor Castell-nedd Port Talbot nifer o brosiectau ynni gwyrdd, glân mewn lansiad mewn ardal arddangos ym mis Mai.
Mae un o’r cynlluniau blaenllaw yn cynnwys defnyddio hydrogen a gynhyrchir gan ormodedd trydan i danio cerbydau o Ganolfan Dechnoleg Bae Abertawe £7 miliwn newydd Castell-nedd Port Talbot ym Mharc Ynni Bae Baglan. Mae cynllun arall yn canolbwyntio ar raglen monitro ansawdd aer ar draws yr ardal.
Yn ystod yr anerchiad croeso, meddai’r Canghellor Edward V Lathan, Aelod Cabinet dros Streetscene and Engineering i Gyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth ei fodd ei fod wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gyda FLEXIS - rhaglen £24 miliwn o ymchwil ac arloesedd ynghylch technolegau systemau ynni ar draws Cymru”.
Cafodd y prosiectau a ddisgrifiwyd yn y Memorandwm eu hamlinellu gan Steven Phillips, Prif Swyddog Gweithredu dros Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ac maent yn cynnwys:
- Tref Carbon Isel Clyfar - Port Talbot (Systemau Ynni Lleol Clyfar)
- Cyfyngiadau ar Grid Trydanol
- Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe / Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru
- Cerbydau Allyriadau Isel / Gwefru Trydanol
- Amgueddfa Pwll Glo Cefn Coed
- Adfer Gwres Dŵr Mwyngloddiau
- Modelu Ynni mewn Amser Real
- Ansawdd Aer
Cynhaliwyd y digwyddiad ym Margam Orangery, ac fe’i agorwyd gan yr Athro Mark Taylor, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd Ynni yn Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).
Mae ymchwilwyr FLEXIS o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe hefyd yn gweithio ar 46 o brosiectau ychwanegol neu wedi’u cynnig: gan gynnwys datblygu cerbydau allyriadau isel ymhellach; defnyddio archwiliad data ynni o’r ardal arddangos i gyfrifo sut i integreiddio, storio a chyflenwi ynni clyfar, glân; defnyddio system ‘pŵer gwyrdd’ arloesol sy’n defnyddio amonia i storio a rhyddhau ynni sero carbon; hydrogen a dŵr mwyngloddiau ar gyfer gwres i gartrefi a chymunedau; a gweithio gyda phartneriaid diwydiannol i wneud datgarboneiddio gwres yn fwy diogel.
Ar hyn o bryd, mae tîm Gwyddorau Cymdeithasol FLEXIS yn cynnal ‘Dyfodol Ynni’ gyda chymuned Port Talbot i ystyried sut gallai bywyd bob dydd newid yn sgîl system ynni datgarboneiddio. Bydd eu canfyddiadau’n helpu prosiectau arddangos FLEXIS i osgoi risgiau a gwella’r gwerth i randdeiliaid y prosiect, gan gynnwys y gymuned ehangach.
Gweledigaeth y prosiect pum mlynedd, sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, yw gwireddu system ynni wydn, fforddiadwy a diogel ar draws Cymru y gellid ei defnyddio ledled y byd.