Archeolegwyr yn dychwelyd i’r Fryngaer Gudd i gloddio am orffennol y ddinas
26 Mehefin 2019
Bydd gwreiddiau cynhanesyddol Caerdydd yn cael eu datgelu yr haf hwn yn ystod cloddfa archeolegol o Fryngaer Caerau.
Rhwng 24 Mehefin a 19 Gorffennaf, mae archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd yn cydweithio â sefydliad datblygu lleol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion, a thrigolion lleol am dymor o gloddio.
Bryngaer Caerau yw un o'r bryngaerau mwyaf a mwyaf trawiadol yn ne-ddwyrain Cymru ac mae wedi'i lleoli mewn ystadau tai Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd. Er hyn, nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o'i bodolaeth gan fod llawer o'r strwythur wedi'i guddio dan goetir.
Mae'r archeolegwyr yn canolbwyntio ar ragfuriau’r bryngaerau, neu waliau amddiffynnol, er mwyn deall pryd a sut y cawsant eu hadeiladu. Mae tri rhagfur canolog yn ymestyn o amgylch y fryngaer am tuag un cilomedr ac mae eu hadeiladwaith yn cynrychioli camp peirianneg gynhanesyddol ryfeddol.
“Cyn i'r Rhufeiniaid orchfygu'r rhan hon o Gymru, roedd Bryngaer Caerau yn anheddiad llewyrchus a oedd yn gartref i tua 200 o bobl. Mewn sawl ffordd, dyma wreiddiau cynhanesyddol Caerdydd ei hun,” meddai Cyfarwyddwr Archeolegol y prosiect, Dr Oliver Davis, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol.
Mae'r cloddiad eleni yn dilyn cloddiadau cymunedol llwyddiannus yn 2013, 2014 a 2015, a ddatgelodd olion cyffrous Neolithig, Oes yr Haearn a Chanoloesol ar y safle.
Mae hefyd yn nodi lansiad ‘Prosiect y Fryngaer Gudd' a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a fydd yn gweld yr ardal yn cael ei thrawsnewid yn atyniad a gynhyrchir gan y gymuned. Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái wedi cael £829,000 ar gyfer y gwaith. Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner gweithredol yn y prosiect, fydd yn costio dros £1.6m; cafwyd cefnogaeth sylweddol arall i ACE gan First Campus, Tai Wales and West, Cymdeithas Archeolegol Caerdydd a Sefydliad Moondance.
Gan weithio gyda phartneriaid prosiect sy'n cynnwys Amgueddfa Stori Caerdydd ac Amgueddfa Cymru, ei nod yw denu 50% yn rhagor o ymwelwyr dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailddatblygu hen Neuadd yr Efengyl ar Ffordd yr Eglwys yn Ganolfan Dreftadaeth Bryngaer Gudd yn ogystal â chyfres o lwybrau treftadaeth hygyrch, maes chwarae a gerddi.
Dywedodd Dave Horton, Rheolwr Prosiect ACE: “Mae prosiect y Fryngaer Gudd yn ymwneud â datgelu'r lle anhygoel hwn i drigolion Caerdydd a thu hwnt, ac ymddengys nad oes ffordd well o wneud hyn na dangos ei ragfuriau gwych.”
I ddathlu dechrau'r prosiect, cynhelir dathliad cymunedol yno ddydd Sadwrn 29 Mehefin, rhwng 10am a 3pm, gyda stondinau, gweithgareddau a bwyd. Mae croeso i bawb.
Mae'r prosiect yn gwahodd pobl i ymweld a chymryd rhan yn y gwaith cloddio eleni. I fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, ffoniwch: 02920 003132 neu ebostiwch: davisop@caerdydd.ac.uk / kimberleyj@aceplace.org