Prifysgol Caerdydd yn datblygu prosiectau ymchwil cydweithredol gyda Somaliland
26 Mehefin 2019
Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn ymweld â Somaliland i ddatblygu prosiectau ymchwil cydweithredol ar rai o faterion mwyaf dybryd y wlad.
Mae Gweithgor Caerdydd-Somaliland wedi'i sefydlu i feithrin cysylltiadau agosach rhwng aelodau o'r gymuned Somaliland yn y ddinas, staff academaidd a Llywodraeth Somaliland. Yn ystod y daith wythnos o hyd, bydd arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ar draws y brifysgol yn edrych sut y gall eu hymchwil helpu'r wlad wrth iddi gael ei hailadeiladu a'i hadfer ar ôl y rhyfel cartref.
Mae Caerdydd, a oedd yn borthladd allforio glo mawr yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, yn meddu ar gysylltiadau hanesyddol cryf gyda Somaliland. Diolch i forwr arloesol o Somalia, a oedd yn gweithio yn y ddinas ac a benderfynodd aros yno, mae prifddinas Cymru bellach yn gartref i un o'r cymdeithasau mwyaf a mwyaf sefydledig o Somaliaid yn y DU.
Deilliodd y prosiect partneriaeth o ymchwil a arweiniwyd gan Dr Richard Gale, Dr Andrew Williams ac Ali Abdi, mewn cydweithrediad â chymuned Somalïaidd Caerdydd, a'i ariannu gan raglen Porth Cymunedol y Brifysgol.
Dywedodd Dr Gale, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Ni allwn ddiystyru cyfraniad y boblogaeth Somalïaidd i'r ddinas sy'n gyfarwydd i ni heddiw. Nod yr ymchwil, a wnaed ar y cyd â'r gymuned, oedd deall mwy am yr hanes gyfoethog hwn ac mae bellach wedi arwain at greu gysylltiadau pwysig â gwlad Somaliland. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â'r Llywodraeth yno i edrych ar sut y gall y Brifysgol helpu i ddatblygu economi ffyniannus, gynaliadwy, sy'n datblygu."
Bydd nifer o feysydd yn cael eu trafod a'u hymchwilio yn ystod y daith. Bydd yr Athro John Pickett, o'r Ysgol Cemeg, yn cwrdd ac yn trafod rheoli plâu ac iechyd da byw. Bydd Dr Rhys Jones, o Ysgol y Biowyddorau, yn ystyried sut y gallai meithrin rhywogaethau planhigion penodol gynnal bywoliaethau amaethyddol.
Bydd yr Athro Richard Gale a Nasir Adam, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn edrych ar sut y gall eu hymchwil helpu gyda bywoliaethau trefol a chyflogaeth ymhlith pobl ifanc. Bydd aelodau o Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol yn cynnig arbenigedd ar gynaliadwyedd dŵr. Rhoddir sylw hefyd i addysg iechyd ac iechyd menywod, yn ogystal â choedwigaeth a'r amgylchedd.
Dywedodd Nasir Adam, sy'n gwneud ei PhD ar y gymuned Somali yng Nghaerdydd: "Mae cymuned Somaliland ymhlith y cymunedau hynaf yma yng Nghymru ac, fel Cymro o Somaliland, rydw i wir yn credu bod hwn yn waith ymchwil amserol ar gyfer y gymuned Somalïaidd yma yng Nghaerdydd ac yn Somaliland.
"Hyd yma, dim ond hyn a hyn o ymchwil gadarn sydd wedi'i wneud; bydd yn cael effaith fawr nid yn unig ar y gymuned sydd ar wasgar yma yng Nghymru, ond hefyd ar ddeall anghenion pobl ifanc yn Somaliland. Yn bwysicaf oll, bydd yr ymchwil yn cryfhau partneriaethau cynaliadwy gyda chymdeithasau sifil a sefydliadau anllywodraethol, ieuenctid ac academaidd."
Fe wnaeth yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, gymeradwyo nodau'r prosiect. "Wrth i Somaliland barhau ar drywydd ail-adeiladu'r wlad, mae'n cynnig enghraifft gref o obaith ac adferiad i nifer o gymdeithasau eraill, yn benodol y rhai hynny sy'n ymgodi o ryfel cartref. Mae'r rhain yn heriau y mae Prifysgol Caerdydd yn awyddus i'w cynorthwyo, ac mewn sefyllfa dda i wneud hynny.
"Rydw i'n edrych ymlaen at y cyfleoedd mae'r prosiect bartner yma'n eu creu ar gyfer trafod a chydweithio yn y dyfodol."
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol: "Bydd datblygiad y prosiect, sy'n canolbwyntio ar helpu Llywodraeth Somaliland i gyflawni nifer o Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig gydag arian gan y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, yn adeiladu ar y cysylltiadau cymunedol cryf fydd yn parhau i gysylltu cymuned Caerdydd â Somaliland.
"Rydw i wedi fy nghyffroi gyda'r syniad o gynnal y prosiect a'r manteision a ddaw yn ei sgîl i bobl yng Nghymru a Somaliland.