Ewch i’r prif gynnwys

Gwartheg llaeth a’r newid yn yr hinsawdd - all geneteg ein helpu i addasu?

24 Mehefin 2019

Dairy cattle

Cydnabyddir bod cynhyrchu da byw’n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae’r newid yn yr hinsawdd hefyd yn effeithio ar dda byw, a bydd angen diwygiadau sylweddol er mwyn cynyddu’r gwydnwch rhag hansawdd sy’n cynhesu.

Mae ein dibynadwyedd presennol ar brif fridiau masnachol o wartheg llaeth yn herio strategaethau cynhyrchu presennol. O ganlyniad, bydd gallu poblogaethau o anifeiliaid masnachol i addasu yn ôl amodau’r dyfodol yn dod fwyfwy pwysig. Bydd hyn yn arbennig o wir wrth i’r hinsawdd gynhesu, amgylchiadau ffafriol ar gyfer clefydau ddatblygu a chostau cynhyrchu godi.

Straen gwres yw un o’r ffactorau pennaf sy’n effeithio ar gynhyrchu da byw, a dangoswyd bod hyn yn achosi gostyngiad mewn cynhyrchu llaeth yn ogystal â chyfraddau is o feichiogi ymysg gwartheg. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae angen strategaeth effeithlon i gyflwyno nodweddion addasol i fridiau masnachol, neu bydd angen amnewid y bridiau hyn am boblogaethau mwy addas.

Cynhaliwyd yr astudiaeth yn rhan o ClimGen (Genomeg Hinsoddol ar gyfer Addasu Anifeiliaid Fferm) ac fe gyhoeddwyd yn Heredity. Nod yr astudiaeth oedd helpu i werthuso rôl geneteg i addasu i’r hinsawdd, drwy gymharu strategaethau dethol genynnol mewn gwartheg llaeth ag efelychiadau bridio blaengar.

Mae prosiect ClimGen yn canolbwyntio ar ganfod technoleg genomeg a’i defnyddio i gynyddu gwydnwch da byw rhag y newid yn yr hinsawdd. Drwy gyfuno ymdrechion blaenorol a phresennol ar lefel cenedlaethol, yr UE a’r byd, i ddeall sut mae da byw’n addasu i eithafion hinsoddol, nod y prosiect yw canfod offer genomig a biofarcwyr y gellir eu defnyddio i ragweld sut bydd poblogaethau da byw yn addasu i heriau thermol ac ati.

Mae canlyniadau’r astudiaeth yn awgrymu y gellir gwella addasu a chynhyrchu ar yr un pryd. Mae hyn yn amlygu’r angen am ddatblygu offer i gydbwyso cynhyrchedd ag addasiadau lleol i wella gwydnwch y sector da byw rhag yr hinsawdd.

Rhannu’r stori hon