Researchers and Industry benefit from the first AI in health and care, study group workshop.
20 Mehefin 2019
Gwaeth y grŵp astudio hwn, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Mathemateg dros dridiau, ddod ag ymchwilwyr ynghyd a oedd yn gweithio ar fynd i'r afael â heriau gofal iechyd gan ddiwydiant. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng Innovate UK, y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data (DIRI) a'i gadeirio'n lleol gan Paul Harper (MATHS a DIRI) a Steven Schockaert (Cyfrifiadureg), ynghyd â Matt Butchers, Rheolwr Trosglwyddo Gwybodaeth Mathemateg Diwydiannol yn Innovate UK/KTN.
Yn ystod y bore cyntaf, bu tri chwmni Knee Tracker, isardSAT ac Oxford Brain Diagnostics yn amlinellu eu heriau ac yn cyflwyno data. Aeth yr ymchwilwyr ati wedi hynny i ddewis pa broblem i weithio arni dros y ddau ddiwrnod a hanner nesaf, gyda'r cyflwyniadau grŵp terfynol yn cael eu cynnal yn ystod y prynhawn olaf. Roedd y problemau yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Dysgu Peiriannol ar gyfer Rhagfynegi Osteoarthritis Gwell (Knee Tracker)
- AI ac Edrych ar y Byd er mwyn Rhagfynegi Risg o Achosion Malaria (isardSAT)
- Cywiriad Maes Tuedd Gwell mewn MRI Drwy Ddysgu Peiriannol (Oxford Brain Diagnostics)
Ymunodd Clement Twumas (myfyriwr PhD blwyddyn gyntaf yr Athro Owen Jones) â grŵp Knee Tracker gydag Andrey Pepelyshev, Yoyo Zhou(MEDIC), yr Athro Irena Spasic (COMSC a DIRI) a Shameem Sampath (Llawfeddyg Pen-glin). Isod ceir dolen i'r cyflwyniad sydd wedi'i symleiddio fel bod modd i arbenigwyr modelu a'r rhai nad ydynt yn modelu, yn ogystal ag arbenigwyr nad ydynt yn dechnegol, ddeall dulliau gweithredu Dysgu Peiriannol neu Ddeallusrwydd Artiffisial i ddatgelu canfyddiadau cudd ar gyfer unrhyw ddata a roddir.
https://drive.google.com/file/d/1dB1NWrw9d2mUhlFO-2kUVCdfpIi3FgtD/view?ts=5ce94852
Cafodd y rhai a oedd yn cymryd rhan dridiau pleserus a chynhyrchiol, gan fwynhau gweithio ar broblemau meddygol pwysig ac, yn y pen draw, helpu'r cwmnïau i dreiddio ymhellach gan ddefnyddio gwyddor data a dulliau modelu. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad tebyg yn 2020.