“Proffwydi digidol” wedi defnyddio llofruddiaeth Jo Cox i waethygu rhaniadau cyn pleidlais yr UE, yn ôl ymchwil
17 Mehefin 2019
Yn ôl ymchwil, ysgogodd llofruddiaeth yr Aelod Seneddol Jo Cox don o dybiaethau anghywir ar y cyfryngau cymdeithasol, a gallai’r rhain fod wedi dylanwadu ar bleidleiswyr cyn refferendwm yr UE.
Dadansoddodd Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch Prifysgol Caerdydd bron i 44,000 o negeseuon Trydar oedd yn cynnwys y termau "Jo Cox" a "Brexit" a anfonwyd wrth i'r bleidlais hanfodol agosáu.
Cafodd Jo Cox, oedd o blaid aros yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE, ei lladd y tu allan i'w swyddfa yn ei hetholaeth yn Birstall, ger Leeds, ar 16 Mehefin 2016. Cynhaliwyd refferendwm yr UE saith diwrnod ar ôl hynny. Yn ôl ymchwilwyr, fe wnaeth ei marwolaeth waethygu rhaniadau gwleidyddol a sbarduno cynnydd mewn ffeithiau meddal – suon, damcaniaethau cynllwynio a honiadau heb eu dilysu – ar y cyfryngau cymdeithasol.
Daeth ymchwilwyr i'r casgliad bod nifer fechan o gyfrifon Twitter – o blaid yr ymgyrch i aros yn ogystal â'r ymgyrch i adael – yn gyfrifol am anfon negeseuon Trydar am y rhesymau dros yr ymosodiad, a beth allai hynny olygu ar gyfer y bleidlais oedd i ddod. Er enghraifft, mae'r data'n dangos sut y gwnaeth dwy neges a anfonwyd o gyfrif sengl gyda dros 550,000 o ddilynwyr ddylanwadu ar 7,000 o negeseuon eraill.
Yn ôl yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch: "Mae'r syniad bod y cyfryngau cymdeithasol yn peri problemau i wleidyddiaeth ddemocrataidd o ganlyniad i effeithiau'r 'siambr eco' yn hysbys iawn erbyn hyn. Mae ein dadansoddiad manwl o ymatebion cyhoeddus i lofruddiaeth Jo Cox yng nghyd-destun yr ymgyrch refferendwm Brexit yn nodi sut y gwnaeth mathau penodol o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sbarduno'r siambrau eco hynny, gan bolareiddio'r broses o wneud synnwyr ymysg y cyhoedd. Roedd y 'proffwydoliaethau digidol' hynny'n gweithio drwy gysylltu argyfwng y funud â naratif sefydledig o gwyno, er mwyn rhagfynegi goblygiadau niweidiol yn y dyfodol ar gyfer canlyniad y refferendwm Brexit oedd ar ddod.
Mae'r ymchwil hefyd yn datgelu'r cysylltiadau rhwng damcaniaeth cynllwynio #Usepens oedd yn cyhuddo'r ochr dros aros o ddileu pleidleisiau dros adael a wnaed â phensil, a'r ffeithiau meddal a wasgarwyd am lofruddiaeth Jo Cox. Yn ôl y papur, ar 22–23 Mehefin, anfonwyd 1,114 o negeseuon Trydar i gefnogi theori #Usepens. Ymysg y negeseuon hynny, cafwyd fod 76 o unigolion yn hyrwyddo theori #Usepens hefyd yn lledaenu ffeithiau meddal am lofruddiaeth Jo Cox.
Daw academyddion i'r casgliad bod angen gwell dealltwriaeth o rôl y cyfryngau cymdeithasol yn wyneb troseddau o'r fath, er mwyn atal niwed mwy eang.
Yn ôl yr Athro Innes: "Mae ein dadansoddiad yn dangos yn glir sut y gall nifer fechan o 'ddylanwadwyr' ar y cyfryngau cymdeithasol gael effaith anghytbwys wrth lywio agweddau o'r sgwrs gyhoeddus ynghylch digwyddiadau troseddol a democrataidd o bwys mawr.
Mae Prophets and Loss: How “Soft Facts” on social media influenced the Brexit campaign and social reactions to the murder of Jo Cox MP, wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Policy and Internet, a gellir bwrw golwg arni yma.