Adolygiad o Wasanaethau Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd
17 Mehefin 2019
Yn ôl ymchwil, mae gwaith cymdeithasol dwys yn effeithiol wrth atal plant rhag gorfod mynd i ofal. Mae’r gwaith hwn wedi’i gynllunio i gynnig cymorth i deuluoedd mewn argyfwng.
Yn gysylltiedig â'i bartner ymchwil, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd, mae What Works for Children's Social Care wedi lansio ei adroddiad diweddaraf am sylfaen dystiolaethol ac effeithiolrwydd Gwasanaethau Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (IFPS). Bydd yr ymchwil yn llywio polisïau ac ymarfer gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr.
Yn ôl adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad o 37 papur, mae IFPS yn effeithiol wrth atal plant rhag gorfod mynd i leoliadau i ffwrdd o'r cartref. Mae nifer y plant y gofelir amdanynt yn y system ofal ar ei lefel uchaf ers 1985 ac yn ôl data'r Adran Addysg ar gyfer 2017–2018, dechreuwyd gofalu am 32,050 yn 2017–2018. Yn ôl academyddion, gallai rhoi’r IFPS ar waith yn briodol helpu i ostwng cyfradd y plant sy'n mynd i ofal – blaenoriaeth allweddol i awdurdodau lleol yn Lloegr.
Cafwyd bod y gwasanaethau yn amrywio o ran effeithiolrwydd, sy'n awgrymu bod y modd y cânt eu rhoi ar waith yn ffactor pwysig. Mae'n debygol bod elfennau allweddol y model, fel gweithio gyda phlant sydd mewn perygl o fynd i ofal ymhen dim, a chynnig cefnogaeth ymhen 24 awr ar ôl cyfeirio plentyn, yn bwysig wrth wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn effeithiol.
Yn ôl yr Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr CASCADE: "Mae'n gyffrous gweld tystiolaeth o'r gwahaniaeth y gall gwaith cymdeithasol dwys gyda theuluoedd ei wneud drwy ei weithredu fel hwn. Mae'r rhan fwyaf o'r ymchwil yn hanu o UDA, felly'r cam nesaf yw cefnogi awdurdodau lleol i roi'r gwasanaethau ar waith yn y DU, neu wella arnynt. Rydym yn cynnal ymchwil er mwyn dysgu am ganfyddiadau ynghylch arferion effeithiol a’u rhannu. Gyda lwc, bydd modd gwerthuso gwasanaethau IFPS yn Lloegr yn y dyfodol agos.
Yn ôl Michael Sanders, Cyfarwyddwr What Works for Children's Social Care: "Mae adolygiadau o'r math hwn, ochr yn ochr ag astudiaethau ymchwil cynradd, yn rhan bwysig o gronni a throsi'r sylfaen dystiolaethol er mwyn cefnogi ymarfer gweithwyr cymdeithasol. Mae gostwng nifer y plant sy'n mynd i ofal yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol yn Lloegr, felly mae nodi modd o ymyrryd sy'n gweithio, yn ôl tystiolaeth ryngwladol, yn ddigwyddiad o bwys."
Mae'r adroddiad llawn ar wefan What Works for Children’s Social Care, yn ogystal ag adroddiad o grynodeb.