Pharmabees yn Eisteddfod yr Urdd
14 Mehefin 2019
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1513926/Pharmabees-at-Urdd-Eisteddfod-4.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Cafodd y tîm Pharmabees amser gwych yn Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos olaf mis Mai. Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu am brosiect Pharmabees yn y digwyddiad.
Roedd y myfyrwyr yn mwynhau ein gweithgaredd microsgop rhyngweithiol; roeddent yn dysgu am y gwahanol beilliau mae gwenyn yn eu casglu ac mae ymchwilwyr yn eu defnyddio i greu meddyginiaethau newydd. Edrychodd y myfyrwyr o dan y microsgop i nodi tri math gwahanol o baill, dant y llew, derw, a meillion. Roedd y myfyrwyr yn paru’r sleidiau o dan y microsgop â'r paill oedd wedi’i argraffu’n 3D ac yn datrys y cliwiau i ddarganfod pa blanhigyn roedd y paill yn perthyn iddo. Yn ogystal â'r gweithgaredd paill, roedd y myfyrwyr yn gallu gwisgo fel gwenynwyr, dysgu mwy am yr hyn y mae ymchwilydd yn ei wneud yn y labordy, dysgu am sut mae mêl yn ymwneud â meddyginiaethau newydd, a gofyn cwestiynau am wenyn.
Roedd y myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill microsgop drwy gyflwyno eu llun a'r hyn y maent wedi'i ddysgu. Cafodd un enillydd lwcus microsgop i fynd adref i wneud ei waith ymchwil ei hun! Galwodd Dylan y Ddraig heibio i glywed am yr archfyg, MRSA. Mae ymchwilwyr yn ceisio datblygu meddyginiaethau newydd gan ddefnyddio gwenyn a mêl i helpu i frwydro yn erbyn yr archfyg yma.
Roedd y myfyrwyr a rhieni yn mwynhau dysgu am y prosiect Pharmabees - roedd yn fêl ar eu bysedd!
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/1513920/Pharmabees-at-Urdd-Eisteddfod-1.jpg?w=575&ar=16:9)
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1513922/Pharmabees-at-Urdd-Eisteddfod-2.jpg?w=575&ar=16:9)
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1513924/Pharmabees-at-Urdd-Eisteddfod-3.jpg?w=575&ar=16:9)
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1513926/Pharmabees-at-Urdd-Eisteddfod-4.jpg?w=575&ar=16:9)