Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr 2019

13 Mehefin 2019

Trumpet and music score

Mae'n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth wahodd cynfyfyrwyr a graddedigion yr Ysgol i gystadlu yn ein cystadleuaeth cyfansoddi i gynfyfyrwyr.

Bydd y cyfansoddiad buddugol yn cael ei berfformio gan Symffoni Offerynnau Chwyth Prifysgol Caerdydd mewn cyngerdd yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 27 Mawrth 2020.

Lansiwyd y gystadleuaeth y llynedd ac roedd yn llwyddiant ysgubol, a chafwyd cynigion gan gynfyfyrwyr yr Ysgol yn ymestyn dros 30 mlynedd. Gareth Olubunmi Hughes, a anwyd yng Nghaerdydd oedd cyfansoddwr y darn buddugol. Perfformiwyd y darn gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant.

Gwahoddir holl gynfyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno cais. Croesewir darnau sydd eisoes wedi'u perfformio yn ogystal â gwaith sydd heb gael ei berfformio o'r blaen.

Mae gan Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd restr nodedig o gynfyfyrwyr sy’n gyfansoddwyr y gorffennol a'r presennol. Yn eu plith mae Morfydd Owen, Grace Williams, Alun Hoddinott, Hilary Tann a Philip Cashian.

Mae gennym hefyd gymuned gref o gyfansoddwyr israddedig ac ôl-raddedig cyfredol a diweddar.

Gwybodaeth dechnegol

Hyd: Dylai’r sgoriau fod rhwng 7' ac 15' munud o hyd.

Offeryniaeth: Dylai’r gwaith gael ei sgorio ar gyfer Cerddorfa o Offerynnau Chwyth Symffonig cyffredin:
3(inc. picc).2.3(inc. bc and E flat clarinet)2/4.3.3.2.2/2 x alto sax, tenor sax, bari sax/Hp.String Bass.Timp.3Perc

Bydd y sgoriau yn ddienw ac yn cael eu cyflwyno i banel. Caiff y sgôr fuddugol ei dewis gan aelodau o staff yr Ysgol Cerddoriaeth, ynghyd ag arweinydd Symffoni Offerynnau Chwyth y Brifysgol.

Mae'n rhaid bod cyfansoddwr y gwaith buddugol ar gael i fynd i'r ymarfer terfynol, ac mae'n bosibl y gofynnir iddo/iddi wneud mân-newidiadau i'r sgôr yn ôl y gofyn ar gyfer ymarferion a’r perfformiad terfynol.

Cyflwynwch PDF o'r sgôr lawn, ynghyd â bywgraffiad 100 o eiriau a'r flwyddyn pan raddiodd y cyfansoddwr i musicoffice@caerdydd.ac.uk erbyn 4pm dydd Llun 14 Hydref 2019.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.