Llwyddiant mentora
13 Mehefin 2019
Mae Aoife McCarthy, Antonia Raven, Caitlin Kilgannon a Hana Undy, myfyrwyr israddedig yn yr Ysgol, wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y Gwobrau Cefnogi Myfyrwyr cyntaf.
Mae'r Gwobrau Cefnogi Myfyrwyr yn cydnabod cyfraniad a chyflawniadau Mentoriaid ac Ymgynghorwyr Myfyrwyr, gan gydnabod eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i weithio gyda myfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Rôl y Mentor yw helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo â bywyd yn y Brifysgol, gan gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth.
Dechreuodd y Cynllun Mentor gyda phum ysgol beilot yn 2012, gan ehangu i 19 ysgol yn ystod y cylch diwethaf. Ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, mae mentor cymheiriaid ar gael i bob myfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf yn eu hysgol.
Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio gymryd rhan yn y Cynllun Mentora. Mae myfyrwyr blwyddyn gyntaf wedi croesawu’r cynllun, ac roedd yn cynnig cyfleoedd datblygu rhagorol i'r mentoriaid. Mae'r Ysgol yn awyddus i gymryd rhan a gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn gallu cael y gefnogaeth - fugeiliol ac academaidd - sydd ei hangen arnynt i lwyddo.
Mae mwy nag 20 cais wedi dod i law'r Ysgol gan fyfyrwyr sydd am fod yn fentoriaid ar gyfer y cylch academaidd newydd (2019/20).