Myfyrwyr ffisiotherapi yn cefnogi Cwpan Rygbi Cyffwrdd y Byd ym Malaysia
13 Mehefin 2019
Aeth rhai o staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i Malaysia yn ddiweddar i gefnogi pum tîm Cymru yn ystod Cwpan Rygbi Cyffwrdd y Byd.
Yn ystod y daith, goruchwyliodd rhai o ddarlithwyr ffisiotherapi Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd (yr Athro Nicola Phillips, Tim Sharp, y Dr Liba Sheeran a Siân Knott) bedwar myfyriwr ffisiotherapi (Matty Ivin, Ayesha Garvey, Rhiannon Haynes a David Cooper).
Pan siaradon ni â Rhiannon Haynes, sydd yn ei blwyddyn olaf yn fyfyriwr ffisiotherapi, disgrifiodd y gystadleuaeth a’r cyfleoedd a gynigiodd iddi.
Pam dewisoch chi astudio ffisiotherapi yng Nghaerdydd?
Mae’n yrfa mor amryfal sy’n cynnig sawl cyfle mewn amryw sectorau. Hoffwn i weithio ym myd y chwaraeon ac roedd Caerdydd yn ddewis amlwg am fod ei darpariaeth ffisiotherapi ar frig y rhestr pan ymgeisiais. Mae’n cynnig wyth lleoliad a asesir hefyd ac, felly, cewch chi amrywiaeth helaeth o brofiad.
Sut clywoch chi am Gwpan Rygbi Cyffwrdd y Byd ym Malaysia?
Drwy gydol fy nghwrs, mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi cyfle imi wirfoddoli i gymryd rhan mewn cystadlaethau megis Rygbi 7 yr Urdd, Gêmau Cymru a’r hanner marathon. Rwyf i wedi cael cyfle i ymgymhwyso’n dylinwr chwaraeon Lefel 4 fel y gallwn i weithio gyda thîm rygbi Gleision Caerdydd a thîm hoci iâ Diawliaid Caerdydd. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael bwrw tymor gyda thîm rygbi’r Scarlets yn rhan o’m cwrs, hefyd.
Wrth wirfoddoli, roeddwn i’n gwybod bod gan rai o’r darlithwyr gysylltiadau â Chymdeithas Rygbi Cyffwrdd Cymru a’u bod wedi defnyddio amryw gystadlaethau blaenorol i gyflwyno myfyrwyr a chanddynt ddiddordeb ac ymroddiad perthnasol i waith cynorthwyo carfanau yn ystod twrnamaint.
Dywedwyd yn ystod ein hail flwyddyn y gallai fod cyfleoedd o’r fath i ni, hefyd. Yn ystod y flwyddyn honno, aeth pedwar myfyriwr i Bencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd Ewrop yn y Tŷ Ogofog. Yn anffodus, doeddwn i ddim mewn sefyllfa i ymgeisio o achos natur fy lleoliad y pryd hynny ac, felly, pan ddaeth cyfle i fynd i Gwpan y Byd ym Malaysia, cyflwynais gais a ofynnodd imi ddangos ymroddiad i weithio ym myd y chwaraeon a’r hyn yr hoffwn ei gyfrannu a’i dderbyn trwy’r cyfle.
Pwy gymerodd ran yn y gystadleuaeth?
Gan fod y carfanau’n eu hariannu eu hunain, fyddan nhw ddim yn hyfforddi gyda’i gilydd yn aml o reidrwydd, ond aethon ni i rai sesiynau hyfforddi dros y Sul i ddysgu am anafiadau diweddar a chyfredol y cystadleuwyr. Trwy hynny, gallen ni ddechrau cynllunio ar gyfer yr offer y byddai eu hangen arnon ni i’n galluogi i drin anafiadau o’r fath.
Ar ôl cyrraedd Malaysia, roedd dau ddiwrnod i gael ein traed tanom ac edrych ar y mannau cystadlu a hyfforddi. Daeth y carfanau tua diwedd yr wythnos gyntaf a dechrau cynnal sesiynau hyfforddi a gêmau ymarfer y gallen ni eu gwylio i’n helpu i baratoi ar gyfer y tywydd poeth a’r cymorth y byddai ei angen ar y chwaraewyr yn ystod gêmau.
Yn ystod diwrnod arferol, bydden ni’n cyrraedd y maes chwarae tua awr cyn dechrau’r gêmau cyntaf - erbyn 7 o’r gloch y bore, yn aml. Bydden ni’n paratoi man ffisiotherapi’r babell gan wagio ac ail-lenwi tybiau iâ ac ailasesu unrhyw anafiadau o’r diwrnod blaenorol. Ar ben hynny, byddai rhaid trin a thrafod cyhyrau a dodi tâp ar y chwaraewyr cyn pob gêm. Mae chwaraewyr rygbi cyffwrdd yn tueddu i blymio am y llinell i osgoi cyffyrddiad cyn sgorio ac, wrth wneud hynny, gallan nhw graffu eu pengliniau ar y tir caled - felly, roedd angen trin y rheiny i osgoi heintiau a rhagor o niwed.
Yn ystod gêmau, bydden ni’n rhoi clytiau gwlanen, yn cadw golwg ar chwaraewyr ac yn cynorthwyo’r ffisiotherapyddion yn ôl yr angen. Roedd ychydig o anafiadau, ond effaith y tywydd poeth ar y chwaraewyr oedd y brif ystyriaeth; roedd angen i rai fynd i’r babell feddygol ar gyfer asesiad a dŵr, ac aeth ambell un i’r ysbyty am sbel ar gyfer rhagor o fonitro a thriniaeth.
Byddai rhaid pacio’r babell bob noson i gadw ein hoffer yn ddiogel ac, felly, yn ogystal â bod y rhai cyntaf i gyrraedd y lle, ni oedd y rhai olaf i adael fel arfer gan y byddai’r gêmau’n parhau hyd 5.30 yr hwyr, yn aml.
Beth oedd y rhan fwyaf cyffrous?
Mwynheais bopeth yno, ac roedd cyfle i gysgodi ffisiotherapyddion mor brofiadol mewn maes yr hoffwn i weithio ynddo yn werthfawr iawn. Roedd y carfanau’n groesawgar iawn ac, felly, roedd yn hawdd i’r myfyrwyr gydio yn eu gwaith; roeddwn i’n ddiolchgar i’r carfanu am hynny.
Yr hyn sy’n fy nenu at weithio ym myd y chwaraeon yw’r ffaith bod rhaid ichi ymateb i sefyllfaoedd na allwch chi eu rheoli ni waeth pa mor dda mae’r chwaraewyr wedi ymbaratoi ac, felly, rhaid gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun a defnyddio rhesymeg glinigol i asesu anafiadau yn briodol.
Mewn cystadleuaeth megis Cwpan y Byd, mae’r chwaraewyr yn awyddus iawn i gymryd rhan ac, o dan bwysau, rhaid dod i’r penderfyniad cywir i’w galluogi i barhau i gyfranogi’n effeithiol neu eu helpu i ddeall nad oes modd iddyn nhw barhau. Er enghraifft, o ganlyniad i drin rhwyg yng nghyhyr croth coes chwaraewr yn arbennig o ofalus, roedd modd iddo ailymuno â’i dîm ychydig ar ôl dechrau’r gystadleuaeth
Beth ddysgoch chi?
Rwy’n credu imi ddysgu cryn dipyn yn bersonol ac yn ffisiotherapydd fel ei gilydd.
O safbwynt ffisiotherapi, fe welais y gallai pethau godi’n annisgwyl yn aml ni waeth faint o brofiad sydd gyda chi a faint rydych chi wedi paratoi ar gyfer yr achlysur. Mae’n bwysig pwyso a mesur pethau o’r fath sydd wedi digwydd yn annisgwyl a’u cadw mewn cof ar gyfer y tro nesaf, yn ogystal â derbyn nad oes neb yn disgwyl ichi wybod popeth. Roedd cyfle i wylio sut y byddai ffisiotherapyddion cymwysedig yn asesu anafiadau ac yn pennu’r driniaeth briodol mor gyflym yn sgîl blynyddoedd o brofiad yn werthfawr iawn, hefyd.
Yn bersonol, dysgais fod tuedd imi fy ngwthio fy hun yn galed (am fod uchelgais gyda fi i weithio ym myd y chwaraeon, fe dybiwn), nad oes disgwyl imi wybod popeth ac na fydda i’n asesu anafiadau yn gywir bob tro ond, ar y llaw arall, rhaid adnabod sefyllfaoedd lle y gallwn i fod o gymorth a ble mae dod o hyd i atebion nad ydw i’n eu gwybod.
Allwch chi gynghori myfyrwyr sy’n ystyried gwneud yr un peth?
Os daw’r cyfle hwn eto, dylai pob myfyriwr a chanddo wir ddiddordeb ym myd y chwaraeon ymgeisio amdano. Dydw i ddim yn credu y bydd y ffordd o fyw at ddant pawb a hoffai weithio ym myd y chwaraeon ac, felly, dyma ffordd wych o ddysgu am fanteision ac anfanteision gyrfa o’r fath. Mae’r cyfle hwn, fodd bynnag, wedi atgyfnerthu fy uchelgais i arbenigo yn myd y chwaraeon ac rwy’n bwriadu parhau i anelu ato.
Rwy’n credu ei bod yn ddiogel dweud, ar ran y myfyrwyr arall a minnau, ein bod yn teimlo’n lwcus iawn inni gael cyfle i ymgeisio am brofiad o’r fath a bod staff yn y brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd rhannu’r cyfryw brofiad gyda myfyrwyr.
Yng Nghaerdydd, rydyn ni’n ffodus bod ffynonellau ariannu ar gael, megis Global Opportunities a hwylusodd gymaint o’r daith hon, a byddwn i’n annog myfyrwyr i ystyried dulliau ariannu i’w helpu i elwa ar brofiadau tebyg.
Os oes diddordeb gyda chi yng nghyfleoedd rhyngwladol Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, cysylltwch â’n tîm symudedd rhyngwladol: HCAREInternationalMobility@cardiff.ac.uk.