Ymchwil yn dangos bod coed yn helpu i ddiogelu cynefinoedd afonydd
23 Hydref 2015
Mae
ymchwil newydd wedi ysgogi gwyddonwyr i alw ar lunwyr polisi i blannu mwy o
goed ger afonydd a nentydd ar ucheldir er mwyn ceisio achub eu cynefinoedd rhag
niwed a achosir gan newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol
Mewn erthygl a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw Global
Change Biology,
mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn disgrifio sut maent wedi darganfod o'r
newydd sut mae coed yn gwneud ecosystemau afonydd yn fwy cadarn.
Mae'r 242,334 milltir o ddŵr sy'n llifo ym Mhrydain ymhlith y cynefinoedd mwyaf
agored i niwed yn sgîl y newid yn yr hinsawdd, a'r rhywogaethau dŵr oer sydd
fwyaf o dan fygythiad.
Mae astudiaethau blaenorol gan dîm Prifysgol Caerdydd ynghylch effaith cynhesu
yn Afonydd Gwy a Thywi wedi dangos gostyngiadau sylweddol yn nifer y pryfed.
Mae rhai rhywogaethau lleol hyd yn oed wedi darfod o ganlyniad i'r newid yn yr
hinsawdd. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y gall coed collddail
ddiogelu rhywogaethau afonydd rhag tymheredd uchel sy'n achosi niwed, gan fod
eu cysgod yn eu hoeri.
Ac eto, yn yr astudiaeth ddiweddaraf hon am nentydd yng Nghymru, mae gwyddonwyr
yn dangos am y tro cyntaf bod coed yn gwneud llawer mwy nag oeri'r tymheredd.
Mae'r ymchwilwyr yn dangos bod ecosystemau afonydd hefyd yn elwa ar yr holl
ynni a gynhyrchir bob hydref gan ddail sy'n cwympo.
Mae rhai pryfed yn bwyta'r sbwriel dail hwn. Mae'r niferoedd uchaf o'r pryfed
hyn i'w gweld mewn afonydd ar yr ucheldiroedd lle mae coed llydanddail ar
lannau afonydd, gan olygu bod digonedd o fwyd ar gael iddynt. Mae pryfed hefyd
yn ffynhonnell fwyd hanfodol ar gyfer pysgod, adar glan afonydd ac ystlumod.
Felly, mae'r rhywogaethau eraill hyn hefyd yn elwa lle mae poblogaethau iach o
bryfed.
Bob hydref, mae tua 5-8kg o ddail sych a marw yn cwympo ym mhob metr o nentydd
coetiroedd. Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn meddwl bod y cyflenwad
blynyddol hwn o fio-màs yn cadw poblogaethau pryfed yn uchel. Efallai ei fod yn
hanfodol er mwyn galluogi ecosystemau'r nentydd i wrthsefyll effeithiau newid
yn yr hinsawdd yn well.
Wrth lunio eu canfyddiadau, cyfrodd yr ymchwilwyr bryfed afonydd a mesur
brithyll brown mewn dros 20 o nentydd ar fynyddoedd Cymru oedd yn llifo drwy
rostiroedd, coedwigoedd conwydd neu goetir collddail. Aethant ati hefyd i fesur 'isotopau sefydlog'
arbennig o garbon a nitrogen mewn organebau afonydd i weld faint o'r ynni yn eu
cyrff oedd yn tarddu o sbwriel dail.
"Ble bynnag y gwnaethom edrych, cawsom ein synnu wrth weld bod tua hanner
y carbon mewn pryfed afonydd yn tarddu o lystyfiant y dirwedd gyfagos yn
hytrach na'r afon ei hun – hynny yw, y dail oedd wedi cwympo neu eu chwythu i'r
afon," meddai'r prif awdur, Dr Stephen Thomas, o Ysgol Biowyddorau
Prifysgol Caerdydd.
"Fodd bynnag, gan fod cymaint yn rhagor o sbwriel dail ar safleoedd coetir
collddail, roedd o leiaf dwbl nifer y pryfed yn cael eu cynnal gan y nentydd
hyn o'i gymharu ag unrhyw fath arall o nant".
Meddai'r Athro Steve Ormerod, sy'n arbenigo mewn bioamrywiaeth afonydd a newid
yn yr hinsawdd, ac sydd hefyd o Ysgol y Biowyddorau, fu'n goruchwylio'r
astudiaeth:
"Mae'r dystiolaeth bwysig hon yn cynnig gobaith y gallwn ddiogelu rhai o
ecosystemau'r byd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Yn ôl pob golwg, mae'n anochel y bydd y byd
yn parhau i gynhesu yn y dyfodol, felly mae angen i ni gynllunio ar gyfer
amodau a allai fod yn wahanol i unrhyw beth yr ydym wedi'i weld o'r blaen, ac
addasu iddynt hyd eithaf ein gallu".
"Mewn afonydd, mae'n debyg bod lleihau llygredd neu adfer coed llydanddail
ar lannau afonydd, yn ffyrdd effeithiol iawn o wella'r gallu i wrthsefyll, ond
mae'n cymryd degawdau i weithredu'r camau hyn.
Rydym am argyhoeddi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau bod angen cymryd
camau nawr i ddiogelu yn erbyn effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol."
Disgwylir i thema addasu i'r newid yn yr hinsawdd gael sylw amlwg yng
nghynadledd Newid Hinsawdd Byd-eang 'COP21' a gynhelir ym Mharis fis Tachwedd
eleni, gan olygu bod y canlyniadau hyn yn arbennig o amserol.
Ariannwyd y gwaith gan Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS).