Ewch i’r prif gynnwys

Gwerthuso ymchwil i ofal cymdeithasol plant

12 Mehefin 2019

Young boy holding hands with an adult

Mae Canolfan Datblygu Ymchwil Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant (CASCADE) Prifysgol Caerdydd – sy’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – wedi’i phenodi i fod ar Banel o Werthuswyr Canolfan What Works ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant.

Bydd y Panel o 16 sefydliad yn hanfodol i lywio dull Canolfan What Works o werthuso a chreu tystiolaeth o safon o beth sy’n effeithiol o ran gofal cymdeithasol plant.

Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys Canolfan Genedlaethol Anna Freud i Blant a Theuluoedd, Ipsos MORI, a Phrifysgol Sussex.

Gwahoddir aelodau panel i wneud cais i gynnal gwerthusiadau annibynnol o brosiectau addawol a ariennir gan Ganolfan What Works, neu sydd wedi’u nodi mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.

Mae Canolfan What Works hefyd wedi cyhoeddi penodiadau i’w Grŵp Cynghori ar Werthuso. Bydd y grŵp hwn o unigolion yn cynnig cyngor a barn annibynnol arbenigol ar ddarpar werthusiadau, methodoleg a gweithdrefnau’r Ganolfan, a’u rhai presennol.

Cafodd Prifysgol Caerdydd ei enwi gan yr Adran Addysg yn bartner ymchwil ar gyfer Canolfan What Works ym mis Tachwedd. Bydd y fenter £7.2m yn helpu i wella bywydau plant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.