Athro Cyfraith Eglwysig yn cyfarfod â’r Pab Francis
12 Mehefin 2019
Ym mis Ebrill, teithiodd Norman Doe, Athro mewn Cyfraith Eglwysig, i Rufain i gwrdd â’r Pab Francis.
Trefnwyd y cyfarfod ar 10 Ebrill ar gyfer yr Athro Doe a Mark Hill QC, Athro Anrhydeddus, yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth gan y Cyngor Esgobol dros Hyrwyddo Undod Cristnogol yn y Fatican.
Cyflwynodd yr Athro Doe gopi o Statement of Principles of Christian Law (Rhufain 2016) i'r Pab, a awgrymwyd ac a ddrafftiwyd yn wreiddiol gan yr Athro Doe ar sail ei lyfr Christian Law: Contemporary Principles (Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2013). Cyhoeddwyd y datganiad gan banel eciwmenaidd o ddeg traddodiad Cristnogol ledled y byd ac mae’n cael ei fwydo i mewn i waith Cyngor Eglwysi’r Byd a'i Gomisiwn Ffydd a Threfn.
Bu’r Athro Doe a'r Pab yn trafod sut mae'r Datganiad yn meithrin cydweithio rhwng Cristnogion ar draws y byd sydd wedi’u rhannu. Cyflwynodd Mark Hill QC gopi o'i Ecclesiastical Law (2018) i'r Pab. Dyma bedwerydd argraffiad y llyfr gan Wasg Prifysgol Rhydychen.
Yn dilyn y cyfarfod ar 11-12 Ebrill, cynhaliwyd ybedwaredd Colocwiwm ar bymtheg o Gyfreithwyr Eglwysig Anglicanaidd a Chatholig. Roedd yr Anglicaniaid yn cynnwys chwech o gynfyfyrwyr LLM mewn Cyfraith Eglwysig Caerdydd: Y Parchedig Stephen Farrell (Dulyn); Sion Hughes Carew (Westcott House, Caergrawnt); Yr Hybarch Jane Steen (Archddiacon Southwark); Y Parchedig Stephen Coleman (Esgobaeth Llundain); Y Parchedig Russell Dewhurst (Esgobaeth Guildford); a Charlotte Miles (cyfreithwraig a myfyriwr PhD o Gaerdydd). Daeth y Colocwiwm ynghyd hefyd yn y Cynulliad ar gyfer Addoli Dwyfol a Disgyblaeth y Sacramentau gyda'r Archesgob Arthur Roche a Mgr Brian Ferme, ysgrifennydd prelad y Cyngor ar gyfer yr Economi. Cyflwynwyd y Colocwiwm i'r Pab John Paul II ym 1999 a Benedict XVI yn 2007.