Ystyr Bywyd
12 Mehefin 2019
Gŵyl athroniaeth flynyddol Prifysgol Caerdydd yn cyfuno jazz a myfyrio dwys
Yr haf hwn unodd Athroniaeth yng Nghymru gyda'r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol i ysbrydoli diddordeb y cyhoedd yn y cwestiwn mwyaf un yn ei phedwaredd Ŵyl Athroniaeth.
Mewn noson oeddyn ymdoddi jazz ac athroniaeth, fe gyflwynodd chwe athronydd o dair prifysgol yn y DU sgyrsiau byr ochr yn ochr â dwy set fyw gan Jazz-Phi, pumawd newydd sy'n cynnwys yr athronwyr James Tartaglia o Brifysgol Keele ac Andrew Bowie o goleg Royal Holloway Prifysgol Llundain ar y sacsoffon ac ar athroniaeth, gyda Steve Tromans ar y piano, Mike Green ar y bâs, a Tymek Jozwiak ar y drymiau.
Canolbwyntiodd y sgyrsiau byr ar ddirfodaeth, technoleg a diben, dan arweiniad athronwyr Prifysgol Caerdydd Alex Dietz, Mary Edwards, Orestis Palermos, a Jonathan Webber, a'r siaradwyr gwadd Kate Kirkpatrick o Goleg y Brenin Llundain a Marieke Mueller o Brifysgol Aberystwyth.
Roedd hyn yn dilyn Gŵyl y llynedd ar athroniaeth a thechnoleg yn Theatr y Sherman ac athronwyr o Gaerdydd yn siarad yn yr Eisteddfod, Gŵyl Ymylon Caeredin a gŵyl ymylol How The Light Gets In yn y Gelli.
"Mae syniadau athronyddol yn bwysig i bobl a dylen nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd ddifyr," dywed yr athronydd a'r sacsoffonydd yr Athro James Tartaglia. "Dyw jazz, cerddoriaeth y funud, ddim erioed wedi cael anhawster cysylltu â phobl, a thrwy gydol ei hanes mae wedi bod yn agored i uniadau newydd a difyr."
Ychwanega trefnydd yr ŵyl yr Athro Jonathan Webber: "Mae pobl yn aml yn meddwl am athronwyr fel pobl sy'n poeni am ystyr bywyd. Ond tan yn ddiweddar, dyw hwn ddim wedi bod yn gwestiwn a drafodwyd llawer mewn adrannau prifysgol. Mae hyn yn dechrau newid, yn rhannol yn sgil dau lyfr gan yr Athro Tartaglia.”
Cynhaliwyd Ystyr Bywyd: Digwyddiad Ymdoddi Jazz-Athroniaeth nos Iau 27 Mehefin am 7.30pm yn Ten Feet Tall yng nghanol y ddinas. Mae'r Ŵyl Athroniaeth am ddim ac mae croeso i bawb.
Mae'r ŵyl yn rhan o'r gyfres flynyddol o ddigwyddiadau cyhoeddus a gynhelir gan y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol ac Athroniaeth yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Gosodwyd Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn bedwerydd am effaith ei hymchwil yn REF2014, yr ymarfer asesu ymchwil diweddaraf. Mae modd astudio’r MA mewn Athroniaeth ar gyfer 2019/2020 yn amser llawn neu’n rhan-amser, ac mae modd cyflwyno cais ar-lein a chael gwybodaeth berthnasol am ysgoloriaethau megis Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr y Brifysgol.