Dewis dylunwyr ar gyfer Canolfan y Myfyrwyr
23 Hydref 2015
Mae penseiri arobryn, sydd wedi ymgymryd â phrosiectau cyhoeddus uchel eu proffil yn y gorffennol, wedi'u dewis i ddylunio Canolfan y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd
Dewiswyd Feilden Clegg Bradley Studios (FCBS) i ddylunio'r adeilad newydd arfaethedig ym Mhlas y Parc, sy'n rhan o fuddsoddiad gwerth £45m ar gyfer profiad myfyrwyr yn y Brifysgol.
Mae gan FCBS brofiad o weithio ar brosiectau prifysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol, ac maent wedi gweithio ar nifer o gynlluniau blaenllaw ar gyfer cleientiaid o bwys, fel Ysgol Gelf Manceinion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa'r Awyrlu Brenhinol, a Chanolfan Southbank.
Caiff Canolfan y Myfyrwyr ei datblygu mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, a bydd yn gweddnewid y modd y caiff yr holl wasanaethau nad ydynt yn academaidd eu darparu i fyfyrwyr.
Bydd yn canolbwyntio ar ragoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid, a bydd yn golygu sefydlu un lleoliad ar gyfer yr holl wasanaethau i fyfyrwyr, nad ydynt yn academaidd. Bydd hefyd yn bwynt croeso i fyfyrwyr ac ymwelwyr, a bydd wedi'i leoli'r drws nesaf i adeilad presennol Undeb y Myfyrwyr.
Bydd yn gartref i ddarlithfa fodern ac ystod o fannau dysgu anffurfiol, ochr yn ochr ag amrywiol siopau a mannau bwyta.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae Canolfan y Myfyrwyr yn fuddsoddiad sylweddol yn ein myfyrwyr a'u profiad dysgu yma yng Nghaerdydd.
"Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â darparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr, gan ystyried pob agwedd ar fywyd myfyrwyr, a hynny mewn adeilad o bwys ar gyfer y Brifysgol a Dinas Caerdydd.
"Mae ein myfyrwyr yn disgwyl y cyfleusterau gorau posibl ym mhob rhan o'u haddysg yng Nghaerdydd, ac felly, rwyf wrth fy modd ein bod wedi penodi dylunwyr sydd wedi ymgymryd â phrosiectau uchel eu proffil o'r math hwn yn y gorffennol."
Dywedodd Claire Blakeway, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: "Mae Canolfan y Myfyrwyr yn fuddsoddiad enfawr ym mhrofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Mae'n newyddion gwych ar gyfer ein myfyrwyr, a bydd yn gweddnewid eu gwasanaethau sydd heb fod yn academaidd. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfleusterau gorau posibl iddynt.
"Mae'r prosiect yn tanlinellu cryfder a phwysigrwydd y bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr."
Dywedodd partner FCBS, Tom Jarman: "Mae'n fraint i FCB Studios gael eu dewis i gefnogi Prifysgol Caerdydd wrth iddynt gychwyn ar y gwaith o sefydlu'r ganolfan arloesol a chyffrous hon ar gyfer myfyrwyr, a gaiff ei lleoli yng nghanol y campws.
"Bydd y cyfleuster newydd wedi'i leoli ym Mhlas y Parc, rhwng y Prif Adeilad ac Undeb y Myfyrwyr, a bydd yn darparu amgylcheddau dysgu a chefnogi ardderchog i fyfyrwyr yn y Brifysgol.
"Bydd y prosiect hefyd yn creu cysylltiadau llawer gwell rhwng Undeb y Myfyrwyr a gorsaf rheilffordd Cathays, y tu cefn iddo."
Enillodd FCBS wobr fawreddog RIBA Stirling yn 2008 ar gyfer cynllun tai arloesol yng Nghaergrawnt. Yn 2013, enillodd wobr Adeilad Cyhoeddus Gwell y Prif Weinidog am yr Ysgol Busnes newydd a'r ganolfan i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.