Ewch i’r prif gynnwys

Cardiff University joins Discovery Partners Institute

11 Mehefin 2019

Cardiff University

Prifysgol Caerdydd bellach yw'r brifysgol gyntaf yn y DU i greu partneriaeth gyda Discovery Partners Institute (DPI) yn Chicago, sefydliad sy'n canolbwyntio ar "ymchwil sy'n seiliedig ar ddarganfod" gyda'r nod o greu effaith mewn datblygiad economaidd, arloesedd a chreu swyddi.

Mae partneriaid rhyngwladol eraill yn cynnwys Prifysgol Tel Aviv, Prifysgol Hebrew yn Israel a Choleg Meddygol Ramaiah, India. Y bwriad yw y bydd DPI a Phrifysgol Caerdydd yn datblygu arian sbarduno i gefnogi prosiectau ar raddfa fach, gyda'r nod o gael gafael ar gyllid tymor byr gan gynghorau ymchwil, y llywodraeth a diwydiant i gyflawni cynaliadwyedd.

Bydd yr ail ffocws ar entrepreneuriaeth ac ymgysylltu â myfyrwyr. Bydd y sefydliad yn cefnogi nifer o fyfyrwyr preswyl bob semester, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gyfrifiadureg, peirianneg a busnes.

Bydd y sefydliad yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn interniaethau gyda chwmnïau lleol yn ogystal â dosbarthiadau yn DPI. Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig cymorth i fyfyrwyr wrth symud, yn ogystal â chynnal cyfnewidiadau ac ymweliadau i fyfyrwyr er mwyn annog gwaith cydweithredol rhwng partneriaid.

Mae cynlluniau ar waith i gynnal gweithdy rhwng cyfadrannau, lle bydd modd trafod syniadau sy'n arwain at brosiectau cydweithredol, ac i ddatblygu a chynnig ysgol haf ar y cyd mewn entrepreneuriaeth ac arloesedd, ochr yn ochr â phartneriaid rhyngwladol DPI.

Mae DPI yn sefydliad ymchwil, addysg ac arloesedd cydweithredol a arweinir gan Brifysgol Illinois ac sy'n canolbwyntio ar ddatrys problemau "her fawr" yr 21ain ganrif. Mae wedi ei integreiddio gyda Rhwydwaith Arloesedd Illinois ledled y dalaith sydd â champysau yn Urbana a Springfield a phrifysgolion eraill yn Illinois.

Un o brif nodau DPI yw sefydlu partneriaeth gyda busnesau, asiantaethau llywodraethol, prifysgolion, sefydliadau a chyrff cymunedol i fynd i'r afael â heriau mewn cyfrifiadura a data, amgylchedd a dŵr, iechyd, bwyd ac amaeth. Mae'r themâu hyn yn cyd-fynd yn agos â gwaith a wneir yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Bydd ymgysylltu â sefydliad partner fel DPI sy'n cynnwys sefydliadau gorau'r UDA, megis Prifysgol Chicago a Phrifysgol Illinois, yn cynnig nifer o gyfleoedd i'n staff a myfyrwyr. Mae'r prif themâu DPI yn cyd-fynd yn agos â'n portffolio ymchwil, a bydd ein staff yn gallu gweithio gyda chydweithwyr yn DPI i gynnig gwyddoniaeth a pheirianneg sy'n effeithiol yn rhyngwladol."

Mae DPI wedi cael $500 miliwn yn ddiweddar gan gyllid cyfalaf y wladwriaeth i adeiladu pencadlys yng nghanol dinas Chicago ac i gefnogi Rhwydwaith Arloesedd Illinois. Dros amser, disgwylir y bydd DPI yn cefnogi 100 cyfadran, 2000 o fyfyrwyr a 275 o staff.

Rhannu’r stori hon