O gywilydd i gydymdeimlad: Marcio troseddwyr am oes
11 Mehefin 2019
Mae New Generation Thinker yn edrych ar sut roedd y Wladwriaeth Brydeinig yn anffurfio wynebau fel cosb yn y darllediad cyntaf o Free Thinking
Mae hanesydd Caerdydd, Dr Emily Cock, yn rhannu ei hymchwil fel New Generation Thinker, sy'n archwilio agweddau newidiol at anffurfio wynebau o'r 17eg ganrif hyd heddiw yn y gyfres Free Thinking.
Yn ei rhaglen gyntaf ar BBC Radio 3, mae'r Cydymaith Ymchwil Leverhulme yn rhannu hanes Japhet Crook. Yn ôl pob tebyg, ef oedd y person olaf yn Llundain a gafodd ei wyneb wedi'i anffurfio fel cosb swyddogol
Yn ystod teyrnasiad y Brenin Siôr II, roedd Japhet Crook wedi esgus bod yn Syr Peter Stranger ac wedi creu gweithredoedd ffug ar gyfer ystâd i forgeisio'r eiddo.
“Roedd yr awdurdodau'n defnyddio statud Elisabethaidd penodol a hynafol iawn i'w erlyn, gan adlewyrchu'r pwysigrwydd a roddwyd ar ffugio yn y cyfnod hwn” eglura Dr Cock.
“Cafodd ei rigodi am awr, torrwyd ei glustiau a holltwyd ei ffroenau yna cafodd ei garcharu am oes yn 1731. Mae ei ddedfryd yn adlewyrchu'r datgysylltiad rhwng y math o drais y gallai'r wladwriaeth ei achosi, a'r cyfyngu arno ymhlith dinasyddion preifat.”
Mae Dr Cock yn gweithio ar brosiect Ymchwil Leverhulme tair blynedd Wynebau Bregus: Anffurfio ym Mhrydain a’i Gwladfeydd (1600-1850), yn ystyried y bygythiad a'r profiad o anffurfio wynebau, a’r modd y cafodd ei gynrychioli ym Mhrydain a’i gwladfeydd yn Virginia, Massachusetts ac Awstralia rhwng 1600 ac 1850.
Mae'r cynllun New Generation Thinkers yn ei nawfed flwyddyn erbyn hyn, ac mae'n bosibl o ganlyniad i BBC Radio 3, BBC Arts a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Bydd yr academyddion dethol yn defnyddio eu hamser ar yr awyr i arddangos cyfuniad bywiog o ymchwil ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau gyda golwg ar danio dychymyg y cyhoedd.
Mae'r rhaglen Free Thinking yn cynnwys Dr Emily Cock yn cael ei darlledu ar BBC Radio 3 ddydd Mercher 12 Mehefin am 10pm.