Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Cerddoriaeth yn codi yn nhablau cynghrair y Guardian

10 Mehefin 2019

Piano being played

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth wedi codi pedwar safle yn nhablau cynghrair Prifysgolion y Guardian, gan gyrraedd yr 16eg safle yn y DU.

Wrth ddathlu blwyddyn arall yn yr 20 uchaf yn y DU, mae’r Ysgol wrth ei bodd o weld ein gwaith caled a’n hymrwymiad i’r profiad myfyriwr a adlewyrchir yn ein sgôr.

Fe wnaeth yr Ysgol yn well na phob ysgol arall o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, gan gyrraedd y safle uchaf gyda sgôr o 98%.

Roeddem ni hefyd wrth ein bodd o fod yn y pumed safle yn gyffredinol ar gyfer boddhad myfyrwyr o ran ein haddysgu, gyda sgôr o 96%.

Fis diwethaf cafodd yr Ysgol lwyddiant yn y Complete University Guide, gan gyrraedd y 12fed safle yn y DU.

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn dathlu llwyddiant ar ôl codi 20 lle i gyrraedd y 38ain safle yn gyffredinol.

Mae tablau cynghrair Prifysgolion y Guardian yn gwerthuso 121 o brifysgolion y DU ar ffactorau sy’n cynnwys boddhad myfyrwyr, rhagolygon gyrfa a chymhareb nifer y myfyrwyr i staff.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.