Gwella'r driniaeth ar gyfer canser y fron
10 Mehefin 2019
Gallai miliynau o gleifion â chanser y fron na ellir ei wella elwa ar ymchwil a arweinir gan Gymru. Mae hwn yn dangos ei bod yn bosibl rheoli'r canser am ddwywaith mor hir, trwy gyfuno therapi ymchwiliadol â thriniaeth arferol.
Gellir defnyddio cyffuriau, fel fulvestrant, sy'n ymyrryd â gweithrediad estrogen, i drin canser y fron sy'n cynnwys derbynyddion estrogen. Er bod y cyffuriau hyn yn aml yn effeithiol am gyfnod, gall y canser ddatblygu ymwrthedd ac yna mae’r cyffuriau'n stopio gweithio.
Yn y treial, bu ymchwilwyr yn ymchwilio a allent wrthdroi neu ohirio gwrthwynebiad i therapi hormonau mewn menywod ar ôl y misglwyf yr oedd eu canser wedi lledaenu drwy ychwanegu'r cyffur Capivasertib sy'n niwtraleiddio protein ac sy’n achosi ymwrthedd i therapi hormonau.
Dywedodd Dr Rob Jones, meddyg ymgynghorol yn Felindre a darllenydd mewn oncoleg feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r canlyniadau’n galonogol iawn. Rydym wedi mesur llwyddiant yn bennaf trwy nodi pa mor hir roedd y driniaeth yn atal twf canser, ond hefyd drwy weld a wnaeth y canser grebachu a pha mor hir roedd cleifion yn byw."
Bu gostyngiad sylweddol ym maint canser 41 y cant o gleifion a dderbyniodd fendvestrant ynghyd â Capivasertib o gymharu â 12 y cant o gleifion a gafodd fulvestrant a phlasebo. Yn ogystal â hyn, cafodd canser y cleifion a oedd yn derbyn y Capivasertib ei reoli am 10.3 mis ar gyfartaledd, ond dim ond am 4.8 mis y rheolwyd y canser yn y rhai a gafodd fulvestrant a phlasebo. Mae'r data treialon presennol hefyd yn awgrymu bod cleifion sy'n cael eu trin gyda'r cyfuniad newydd yn byw chwe mis yn hirach ar gyfartaledd.
Cafodd un o'r cleifion, Susan Cunningham, meddyg sydd wedi ymddeol o Gaerdydd, ddiagnosis o ganser y fron am y tro cyntaf yn 2005. Ymunodd â'r treial yn 2017 ar ôl iddi ddarganfod bod ei chanser wedi lledaenu ac nad oedd modd ei wella.
“Yn anffodus, yn fy nheulu rydym wedi gorfod rhoi gwybod i'm plant chwe gwaith fod gan aelod o'r teulu ganser. Mae dau o’u neiniau/teidiau wedi marw o ganser. Mae nain/taid arall wedi cael canser ond yn ffodus mae wedi goroesi. Rydw i wedi cael dau ddiagnosis o ganser.
Mae arweinwyr yr astudiaeth yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn mynd ymlaen i gam tri o’r treial, lle bydd y cyfuniad ymchwiliadol yn cael ei brofi mewn mwy o gleifion, cyn y gellir gwneud unrhyw argymhellion i'w ddefnyddio fel triniaeth newydd ar y GIG.
I gloi, dywedodd Dr Jones: “Yn y DU mae 55,000 o achosion newydd o ganser y fron i’w gweld bob blwyddyn ac mae tua thri chwarter yn ganser y fron sy’n cynnwys derbynyddion estrogen. Mae hynny'n cyfateb i filiynau o gleifion ledled y byd a allai elwa o'r darganfyddiad hwn.
“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i'r holl gyfraniadau sy'n ein galluogi i gynnal treialon fel hyn. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi cynnwys tua miliwn o bunnoedd o Arian Elusennol Felindre sydd wedi cefnogi staff ymchwil i gynnal yr holl dreialon ar ein Huned."
Roedd y treial FAKTION yn cynnwys 140 o gleifion o 19 ysbyty ledled y DU, ac fe'i noddwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae wedi'i arwain ar y cyd gan Dr Rob Jones o Ganolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd a Dr Sacha Howell o Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Christie a Phrifysgol Manceinion.