Diagnosis ac adfer
28 Tachwedd 2019
Gallwch gyflwyno cais nawr ar gyfer astudiaeth PhD gydweithredol gyda Phrifysgol Caerdydd a Gofal Canser Tenovus, prif elusen ganser Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canolbwyntio ar ddeall canlyniadau economaidd-gymdeithasol unigolion sy'n dioddef o ganser yn y DU. Ysgol Busnes Caerdydd sy’n ariannu’r astudiaeth a Gofal Canser Tenovus sy’n ei hariannu.
O dan oruchwyliaeth Melanie Jones, Athro Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, byddant yn edrych ar effaith agweddau craidd diagnosis ar ansawdd bywyd unigolyn, gan gynnwys gwaith, incwm a lles.
Dywedodd yr Athro Jones: “Bydd y prosiect yn cynnwys defnyddio data hydredol manwl sy’n dilyn unigolion dros amser, gan gynnwys trwy’r diagnosis o ganser a’r broses o wella...”
Bwlch mawr
Bydd y prosiect hwn yn cynnig proffil ystadegol sy’n meintioli effaith canser yn y DU ac, wrth wneud hynny, yn llenwi bwlch mawr yn y dystiolaeth, yn unol â nod strategol Tenovus, sef cynnal a chyllido ymchwil i wella profiad dioddefwyr canser.
Oherwydd natur gydweithredol y PhD bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle unigryw i gyflwyno canfyddiadau ei ymchwil i Tenovus.
Gan fod Gofal Canser Tenovus yn cefnogi cleifion canser a'u hanwyliaid yng nghanol y gymuned, byddant hefyd yn cael hyfforddiant mewn ymgysylltu’n allanol a datblygu effaith o ganlyniad i’r ymchwil.
Rhagor o wybodaeth am y cyfle ymchwil ôl-raddedig cyffrous hwn.