Llwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd – Sesiynau cofrestru a gwybodaeth i ymwelwyr
10 Gorffennaf 2019
Holl lwybrau (ar wahân i'r Llwybr at Ofal Iechyd)
Pryd: Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019
Ble: Addysg Barhaus a Phroffesiynol, 21-23 Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4AG
12.00 - 14.00
a
17.00-19.00
Drwy gwblhau llwybr rhan-amser, mae llawer o ddysgwyr sy'n oedolion ac o gefndiroedd amrywiol wedi mynd ymlaen i astudio gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ein llwybrau yn berffaith ar gyfer unigolion sydd heb dderbyn addysg ffurfiol ers peth amser, a bydd ein tiwtoriaid cyfeillgar yn darparu cymorth wrth astudio a chyngor ar sut i wneud cais i'r Brifysgol. Ar gyfer y digwyddiad hwn, rydym yn arddangos y llwybrau canlynol:
- Cyfrifeg
- Rheoli Busnes
- Saesneg Iaith, Llenyddiaeth neu Athroniaeth (Naratifau Mewnol)
- Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol
- Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (Archwilio'r Gorffennol)
- Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg)
- Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Cyfieithu
- Ysgrifennu Creadigol
- Ffarmacoleg Feddygol
- Y Gwyddorau Cymdeithasol
Rydym hefyd yn darparu llwybr at Ofal Iechyd gan gynnwys Nyrsio Oedolion, Nyrsio Iechyd Meddwl, Nyrsio Pediatrig, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Ymarfer Gofal Llawdriniaethol, Radioleg, Radiotherapi a Ffisiotherapi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio'r llwybr Gofal Iechyd, ebostiwch pathways@caerdydd.ac.uk. NID yw'r digwyddiad hwn yn cynnwys y llwybr yma.
Nid oes angen bod â chymwysterau blaenorol ar gyfer astududio’r rhan fwyaf o lwybrau. Ewch i'n gwefan am ragor o fanylion ynghylch pob llwybr.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, nid oes angen cofrestru ymlaen llaw, dim ond dod draw ar y diwrnod.