Ymchwilwyr o’r farn bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau yn y byd academaidd
6 Mehefin 2019
Mae astudiaeth a arweiniwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi dangos bod cysylltiad negyddol rhwng bod yn fenyw a gradd eu swydd academaidd.
Cafodd 2,270 o academyddion ar y cyfan o’r 24 prifysgol Grŵp Russell, ar draws pob maes o wybodaeth, eu harolygu ar gyfer yr ymchwil. Gofynnwyd amrywiaeth eang o gwestiynau iddynt ynghylch eu rhinweddau academaidd, cynhyrchiant eu hymchwil, amodau a dyletswyddau eu gwaith, eu nodweddion demograffig-gymdeithasol a’u hamgylchiadau teuluol - fel faint o blant sydd ganddynt a chyfrifoldeb am eu gofal.
Canfu’r dadansoddiad fod dyn sy’n gweithio yn yr un maes â menyw, gyda rhinweddau ac amgylchiadau teuluol tebyg, neu’r un rhai hyd yn oed, yn fwy tebygol o fod mewn swydd academaidd uwch.
Meddai Dr Georgina Santos, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: “Mae neges ein hymchwil yn glir: Mae menywod yn llai tebygol o fod mewn swyddi academaidd uwch, hyd yn oed pan mae ganddynt brofiad cymharol â’u cydweithwyr gwrywaidd. Er mai prin iawn yw unrhyw wahaniaethu agored amlwg yn y byd academaidd, weithiau gallai fod ffurfiau ar wahaniaethu isymwybodol sy’n gudd, neu ddisylw bron, ac yn anos ei ganfod o ganlyniad.”
Hefyd, mae’r astudiaeth yn dangos y gall canran yr amser a dreulir ar weithgareddau addysgu gael effaith negyddol ar gynnydd gyrfaol. Mae’r cysylltiad hwn yn fwy niweidiol i fenywod, sy’n treulio mwy o’u hamser gweithio’n addysgu. Mae’n wir hefyd i’r rheini mewn swyddi academaidd is. Mae ymchwilwyr yn dod i’r casgliad y gellid ystyried bod canran yr amser a dreulir ar weithgareddau addysgu yn achos ac yn ganlyniad fel ei gilydd i’r bwlch rhwng y rhywiau, gan fod menywod yn tueddu i fod mewn swyddi is eu gradd.
Yr unig grŵp yn yr ymchwil na chanfu bwlch rhwng y rhywiau yw’r grŵp o academyddion gwrywaidd a benywaidd gafodd blant ar ôl iddynt gael swydd benodol.
Hefyd, datgelodd canfyddiadau’r arolwg nad oedd plant gan fwy na hanner (53%) o’r academyddion benywaidd yn y sampl 45 oed a hŷn, o gymharu ag 20% o’r holl fenywod 45 oed a hŷn yng Nghymru a Lloegr.
Meddai Dr Santos: “Ar ôl iddynt gyrraedd eu tridegau, mae gan fenywod ddau nod yn eu bywydau sy’n tynnu’n groes: ennill eu plwyf yn eu gyrfaoedd ar ôl cyflawni eu PhDs, a chael plant. Gall gohirio beichiogrwydd olygu bod y menywod hyn yn diweddu’n ddi-blant, oherwydd bod ffrwythlondeb yn dirywio gydag oedran. Nid ystyrir academia yn amgylchedd gweithio sy’n gyfeillgar i deuluoedd, ac mae hynny’n wir yn ôl pob tebyg.”
Cydnabu’r ymchwilwyr fod gan brifysgolion yng Ngrŵp Russell nifer o bolisïau ar waith i gefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol, gan gynnwys trefniadau gweithio hyblyg a chyfleoedd rhan-amser, pecynnau cyfnod mamolaeth hael, a gofal plant di-dreth (gyda chyfyngiad) neu wedi’i noddi, a hwnnw ar y campws weithiau.
Ychwanegodd: “Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig arweiniad gyrfaol drwy gynlluniau gwerthuso ar gyfer dynion a menywod, ac mewn rhai achosion, drwy weithdai a ddylunnir gan fenywod ac ar eu cyfer yn benodol. Ond er yr holl bolisïau a manteision hyn, mae ein canlyniadau’n dangos bod angen gwneud mwy i wneud yn siŵr na fydd menywod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod gwneud penderfyniad anodd rhwng dechrau teulu neu ddatblygu eu gyrfaoedd.”
Cyhoeddwyd Gender and Academic Rank in the UK yn Sustainability a gallwch weld y papur yma.