Gwaith teg i Gymru
4 Mehefin 2019
Mae Athro Cysylltiadau Cyflogaeth, ymgynghorydd busnes proffesiynol ac athro ymchwil o Brifysgol Caerdydd wedi cynnig eu harbenigedd i gomisiwn gwaith teg a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Ymunodd yr Athro Edmund Heery, o Ysgol Busnes Caerdydd a Sharanne Basham-Pyke, Cyfarwyddwr Shad Consultancy Ltd ac aelod o Fwrdd Ymgynghori Rhyngwladol yr Ysgol, â’r ymgynghorydd arbenigol annibynnol, yr Athro Alan Felstead o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar Gomisiwn Gwaith Teg Llywodraeth Cymru.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Linda Dickens MBE o Ysgol Busnes Warwick, edrychodd y Comisiwn ar amrywiaeth o fecanweithiau deddfwriaethol, economaidd a rhai eraill y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i hyrwyddo ac annog gwaith teg, er mwyn gwneud Cymru'n gymdeithas fwy cyfartal, teg a chyfiawn.
Mewn cyfres o argymhellion, amlinellodd y comisiwn sut y dylid datblygu safonau newydd, sy'n pennu'r hyn y mae gwaith teg yn ei olygu'n ymarferol gael eu datblygu er budd i bawb yng Nghymru.
Nododd y comisiwn hefyd na ddylid ond rhoi arian cyhoeddus i'r sefydliadau sy'n bodloni'r safonau hynny, neu sy'n gwneud cynnydd at eu bodloni.
Dywedodd yr Athro Dickens: “Ein diffiniad o waith teg yw bod gweithwyr yn cael eu talu, eu clywed a'u cynrychioli yn deg, a'u bod yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol ac un sy'n parchu hawliau.”
fair-work-wales-report (Welsh).pdf
Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Dyma rai o’r 48 o argymhellion ar draws wyth maes a wnaed gan y comisiwn:
- Dylai holl Weinidogion ac adrannau Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am waith teg.
- Dylai cyrff y sector cyhoeddus fod yn gyflogwyr gwaith teg bwriadol ac amlwg.
- Dylai mewnfuddsoddwyr fod yn rhan o sefydliadau gwaith teg.
- Dylai prosiectau seilwaith a phrosiectau buddsoddi cyfalaf mawr fod yn brosiectau Gwaith Teg Cymru.
- Mae gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol, sy’n cynnwys undebau llafur a chyflogwyr, yn ganolog i gyflawni gwaith teg, a dylai Deddf Partneriaeth Gymdeithasol arfaethedig Llywodraeth Cymru adlewyrchu argymhellion y Comisiwn.
- Dylai Llywodraeth Cymru roi strategaeth ar waith i wella effeithiolrwydd y ffordd y mae hawliau presennol yn cael eu gorfodi yng Nghymru, a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi cyfundrefn arolygu a gorfodi gwladol ar waith, sy'n gryfach ac sydd â chosbau ynghlwm wrthi, i rwystro pobl rhag mynd yn groes iddi.
Ychwanegodd yr Athro Dickens: “Mae camau pwysig, a rhai arloesol yn aml, eisoes wedi'u cymryd yng Nghymru, a'r hyn sy'n bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall gwaith teg helpu i gyflawni economi gryfach, mwy modern a mwy cynhwysol...”
Dros gyfnod o chwe mis o archwilio, casglodd y comisiwn dystiolaeth o gyfres o gyfarfodydd ymgysylltu â busnesau, cyrff anllywodraethol a phartneriaid cymdeithasol megis Chwarae Teg ymysg eraill.
Yn eu rolau fel comisiynwyr, gwnaeth yr Athro Heery a Ms Basham-Pyke arwain nifer o’r digwyddiadau hyn.
Dywedodd yr Athro Heery, wrth fyfyrio ar y broses a gasglodd 60 o ymatebion o’r galw am dystiolaeth: “Mae cymryd rhan mewn comisiwn o’r fath yn dangos cenhadaeth gwerth cyhoeddus yr Ysgol, ac yn wir cenhadaeth ddinesig ehangach y Brifysgol...”
Ychwanegodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Dickens a'r panel cyfan am eu hymdrechion a'u hymrwymiad i baratoi adroddiad gwych mewn cyn lleied o amser...”
“Rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb sy'n gweithio yng Nghymru.”
Cafodd y Comisiwn Gwaith Teg ei sefydlu gan Carwyn Jones, y cyn-Brif Weinidog, yn 2018.
Darllenwch yr adroddiad Gwaith Teg Cymru, yn awr.