Ewch i’r prif gynnwys

Y traethawd ymchwil PhD gorau

5 Mehefin 2019

Stack of paper

Mae cyn-ymgeisydd doethurol o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr o fri i gydnabod ei thraethawd ymchwil PhD rhagorol ym maes economeg a logisteg forol.

Mae Dr Bahana Wiradanti, sydd erbyn hyn yn Ddadansoddwr yn Swyddfa Strategaeth Gorfforaethol Indonesia Port Corporation, ar ôl dadlau dros draethawd ymchwil ei PhD yn llwyddiannus, yn un o blith tri o’n hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd ynddi i ennill Gwobr MEL Palgrave Macmillan am y traethawd ymchwil PhD gorau.

Trefnir y wobr, sy’n cael ei rhoi am y seithfed flwyddyn, gan y Gymdeithas Economegwyr Morol Rhyngwladol i hyrwyddo ymchwil o ansawdd ac i gryfhau cysylltiadau ymchwil ymhlith ymchwilwyr ifanc.

Cyhoeddir yr enillydd, a fydd yn cael gwobr o €1,000 mewn seremoni ddydd Gwener 21 Mehefin 2019 mewn Gweithdy Rhyngwladol ar y pwnc “Adeiladu porthladdoedd y dyfodol mewn cadwyni cyflenwi gwydn,” a gynhelir yn Genoa.

Bydd Dr Wiradanti, sy’n mynd i’r seremoni gyda chymorth ariannol gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn cyflwyno ei gwaith ymchwil ochr yn ochr â’r ymgeiswyr eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn sesiwn arbennig yn y gweithdy.

Dywedodd Dr Andrew Potter, Darllenydd mewn Logisteg a Thrafnidiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd ac un o dîm goruchwylio Dr Wiradanti: “Mae cyrraedd y rhestr fer yn dyst i waith caled Bahana dros dair blynedd ei PhD...”

“Mae ei gwaith ymchwil yn taflu goleuni ar y ffactorau sy’n effeithio ar ddatblygiad porthladdoedd mewn ardaloedd perifferol a sut y gall y rhain gefnogi nodau datblygu ehangach yn y rhanbarth amgylchynol. Er ei bod hi wedi cynnal ei hastudiaeth yng nghyd-destun Indonesia, gellir trosglwyddo’r canfyddiadau i sawl rhanbarth arall ar draws y byd.”

Yr Athro Andrew Potter Reader in Logistics and Transport, Deputy Head of Section (Learning and Teaching)

Datblygiad porthladdoedd sy’n ganolbwynt i gynwysyddion

Aerial view of port

Yn sgîl dadlau dros ei thraethawd ymchwil yn llwyddiannus ym mis Ionawr 2019, gwnaeth Dr Wiradanti fodloni’r meini prawf ar gyfer y gystadleuaeth o drwch blewyn – a oedd yn mynnu bod yn rhaid i ymgeiswyr wneud hynny rhwng 31 Mai 2016 a 28 Chwefror 2019.

“Mae’n anrhydedd cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr nodedig hon. Mae gwneud PhD wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac rwy’n ddiolchgar am y cymorth gan Ysgol Busnes Caerdydd yn ogystal ag Indonesia Port Corporation a noddodd fy astudiaeth.”

Dr Bahana Wiradanti Ddadansoddwr yn Swyddfa Strategaeth Gorfforaethol Indonesia Port Corporation

“Rwy’n gobeithio y gallai’r wobr fod yn gam tuag at wneud cyfraniad go iawn i wybodaeth, arferion a pholisi.”

Edrychodd ei gwaith ymchwil ar sut y gallai porthladdoedd sy’n ganolbwynt i gynwysyddion mewn ardaloedd perifferol gynnig cyfleoedd i dyfu drwy gynnal arolwg dulliau cymysg gyda phorthladdoedd yn Indonesia a chynrychiolwyr o’r diwydiant cludiant morol.

Rhagor o wybodaeth am ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynnig cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig lle mae modd cydweithio'n rhyngddisgyblaethol a manteisio ar ein cysylltiadau gyda diwydiant, masnach a llywodraeth.