Ewch i’r prif gynnwys

Astroffisegydd wedi’i chynnwys mewn llyfr am fenywod o Gymru

4 Mehefin 2019

Cover of Welsh book for children

Mae’r Athro Haley Gomez, darlithydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, wedi’i chynnwys mewn llyfr i blant a lansiwyd yr wythnos hon yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae’r Eisteddfod yn ŵyl gystadleuol gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu yn ystod yr wythnos mewn amrywiaeth o gystadlaethau, fel canu, dawnsio a pherfformio, ac mae’n denu dros 90,000 o ymwelwyr.

Mae’r llyfr gan Medi Jones-Jackson wedi’i ysgrifennu ar gyfer siaradwyr Cymraeg, gyda’r teitl Genod Gwych a Merched Medrus. Mae’n targedu plant rhwng pump a naw mlwydd oed a’r llyfr Cymraeg cyntaf ynghylch menywod o Gymru.

Mae Medi wedi dewis 12 o fenywod diddorol a nodedig o Gymru i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched. Mae cymysgedd o ffigyrau cyfoes a hanesyddol, ac mae’r rhestr yn cynnwys Betsi Cadwaladr, Laura Ashley, Betty Campbell, Tori James a Jade Jones. Nod y llyfr yw cymysgu straeon bywydau menywod ysbrydoledig o Gymru â ffeithiau a ffigyrau am eu meysydd arbenigol. Mae’r straeon wedi’u harlunio’n dda gan yr arlunydd Telor Gwyn mewn ffordd sy’n ddiddorol i bobl ifanc.

Mae’r Athro Haley Gomez, a enillodd MBE yn 2018, wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd ers ei gradd israddedig a gyflawnodd yn 2001. Mae ei hymchwil wyddonol yn cynnwys astudio priodweddau llwch cosmig, a sut mae’n ffurfio. Dyma’r deunydd solet a ffurfir mewn sêr ac mae planedau gan gynnwys y Ddaear wedi’u ffurfio ohono. Ar gyfer yr ymchwil hon, mae'n defnyddio arsyllfeydd modern ar y tir yn ogystal â’r gofod, ac mae’n cydweithio â seryddwyr blaenllaw ledled y byd. Yn ogystal â’i hymchwil, mae Haley wedi ymrwymo i gyfathrebu gwyddoniaeth â chynulleidfa ehangach ac ysbrydoli pobl ifanc am ffiseg a seryddiaeth.

Mae’r llyfr, a gyhoeddwyd gan y cyhoeddwyr Cymraeg Y Lolfa, yn cael ei lansio’r wythnos hon yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Rhannu’r stori hon