Llwyddiant i Fferylliaeth yn Peint o Wyddoniaeth
3 Mehefin 2019
Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Ysgol Fferylliaeth, mae'r ymchwilwyr wedi dod â'u gwyddoniaeth o'r lab ac i'r dafarn am dair noson o ymgysylltu â'r cyhoedd, yn bartneriaid â Peint o Wyddoniaeth. Roedd yr Ysgol yn awyddus i arddangos ei gwaith Ymchwil arloesol, yn enwedig o ystyried y bydd yr Ysgol wedi bod yn croesawu myfyrwyr am ganrif ym mis Hydref.
Fel yr ysgol fferylliaeth orau yn y DU ar gyfer ymchwil, roedd yno'n sicr llawer i'w drafod. Ar y noson gyntaf, bu Andrew Westwell yn siarad am y modd y mae cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon yn niweidio'r ymennydd, tra bod Ben Newland wedi cynnig llygedyn o obaith o ran sut allwn drwsio ymenyddiau gyda help gwyddoniaeth. Iechyd menywod oedd o dan y chwyddwydr ar yr ail noson. Siaradodd Alex White am ei gyflawniad aruthrol o weld cyffur a ddyfeisiwyd ganddo ym 1993 – Rucaparib – yn cael ei werthu ar y farchnad chwe blynedd ar hugain yn ddiweddarach. Yn dilyn hynny, bu James Birchall a Louise Hughes yn siarad am eu prosiect sydd wedi newid bywydau, sef cyflwyno dulliau atal cenhedlu i gymunedau yn Affrica drwy dechnoleg micronodwyddau.
Ar y noson olaf, siaradodd Chris Thomas a Sion Coulman am y modd y maen nhw'n gwthio gwyddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain yn ei blaen drwy ddatblygu ffyrdd rhad a dyfeisgar o argraffu meinwe mewn 3D, tra soniodd Les Baillie wrth gynulleidfa dan gyfaredd am y modd y gallai cwrw helpu â'r frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.
Dywedodd Mark Gumbleton, Pennaeth yr Ysgol, “Mae hi’n fraint ac yn gyfrifoldeb cymdeithasol i wyddonwyr prifysgol ymgysylltu â’r cyhoedd a, thrwy hyn, i ysbrydoli, i ehangu dealltwriaeth ac, os gai fod mor ddewr, difyrru. Mae’r platfform “Peint o Wyddoniaeth” yn hwyluso’r uchod mewn ffordd unigryw. Mae wir yn ŵyl hyfryd ag effeithiol, ac mae cyfres 2019 yng Nghaerdydd wedi bod yn llwyddiant unwaith eto”.
Bob nos, roedd y lleoliad yn llawn dop â'r rheiny sy'n frwd dros wyddoniaeth ac yn awyddus i ddysgu am y gwaith sy'n cael ei wneud gan ymchwilwyr eu dinas. Roedd lleoliad anffurfiol tŷ tafarn wedi helpu i greu awyrgylch cynnes a cholegol, gan bwysleisio'r neges nad yw gwyddoniaeth a chwilfrydedd yn byw a bod o fewn muriau'r brifysgol yn unig, ond yn ffynnu y tu allan iddynt, mewn gwirionedd.