Gall rheoli llygredd mewn afonydd leihau effaith cynhesu'r hinsawdd
3 Mehefin 2019
Gallai gwelliant mewn ansawdd dŵr ostwng effaith ecolegol newid yn yr hinsawdd ar afonydd, yn ôl astudiaeth newydd gan Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Vermont.
Gall dŵr cynnes effeithio ar organebau dŵr croyw mewn ffyrdd tebyg i lawer o lygryddion: mae'r naill a'r llall yn gostwng faint o ocsigen sydd yn y dŵr. Wrth i lefelau ocsigen ostwng, gallai rhywogaethau sensitif ddiflannu, gan gynnwys infertebratau fel gwybed Mai, a physgod fel eog a brithyll. Ar nodyn mwy cadarnhaol, gallai ymdrechion i wella ansawdd dŵr, fel trin dŵr gwastraff yn well a rheoleiddio llymach, o bosibl wrthbwyso rhai o effeithiau cynhesu'r hinsawdd.
Bu'r tîm yn edrych ar sut mae cymunedau infertebratau wedi newid mewn dros 3,000 o leoliadau ar draws Cymru a Lloegr, dros ugain mlynedd gan ddechrau ym 1991. Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd tymereddau cyfartalog dŵr gan 0.6°C, ond mae'n ymddangos bod effeithiau biolegol cynhesu wedi'u gwrthbwyso gan welliannau ar yr un pryd mewn ansawdd dŵr, oedd yn gyfwerth â mwy na 0.8°C o oeri.
Dywedodd y prif awdur, Dr Ian Vaughan o Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: "Ar draws y byd, mae dyfroedd croyw ymysg ein cynefinoedd sydd fwyaf o dan fygythiad, lle gwelwn y dirywiad mwyaf mewn rhywogaethau, a'r cyfraddau cyflymaf o rywogaethau ar drengi. Mae llawer o rywogaethau dŵr croyw yn sensitif iawn i dymheredd, a gall cyn lleied â 0.5°C o gynnydd gael effaith sylweddol. Er bod tymereddau'n cynyddu, mae nifer o afonydd yng Nghymru a Lloegr wedi parhau i wella o broblemau llygredd hanesyddol dros y degawdau diweddar, sy'n awgrymu bod gwelliannau sy'n mynd rhagddynt i ansawdd dŵr yn gwrthbwyso'r cynnydd mewn tymheredd.
"Am y tro cyntaf, rydym wedi amcangyfrif maint y 'credyd' hwn mewn ansawdd dŵr, y mae'n ymddangos iddo dalu'r 'ddyled' hinsoddol a gronnwyd yn ystod y cyfnod hwn. Er nad yw rheoli llygredd yn ateb i bob problem o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd ar afonydd, mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod hynny'n offeryn gwerthfawr o ran gostwng effeithiau newid yn yr hinsawdd yn ogystal â chynnig buddiannau amgylcheddol ehangach."
Ychwanegodd Helen Wakeham, Cyfarwyddwr Ansawdd Dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd: "Mae cymryd camau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn un o brif flaenoriaethau Asiantaeth yr Amgylchedd. Rydym wrth ein boddau o glywed bod y gwelliannau mawr mewn ansawdd dŵr yn Lloegr dros y degawdau diweddar wedi gwrthbwyso effaith newid yn yr hinsawdd ar infertebratau'r afon.
"Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio gyda phartneriaid a diwydiant i ostwng ymhellach y pwysau amgylcheddol i, ymysg pethau eraill, gynyddu gwydnwch yr amgylchedd dŵr i ganlyniadau negyddol newid yn yr hinsawdd."
Mae'r gwaith ymchwil "Water quality improvements offset the climatic debt for stream macroinvertebrates over twenty years" wedi'i gyhoeddi yn Nature Communications.