Cynorthwyydd Bywyd Preswyl y Flwyddyn
31 Mai 2019
Mae ymgeisydd PhD o Ysgol Busnes Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gefnogi myfyrwyr sy'n byw ym Mhreswylfeydd y Brifysgol yn y Gwobrau Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr cyntaf.
Enillodd Violina Sarma, sy'n cwblhau astudiaethau doethurol yn adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd, wobr Cynorthwyydd Bywyd Preswyl y Flwyddyn yn y seremoni yn Adeilad Julian Hodge ar 11 Ebrill 2019.
Mae'r wobr, a gyflwynwyd gan Simon Wright, Cofrestrydd Academaidd Prifysgol Caerdydd, yn dathlu rôl Violina yn cyfoethogi profiad myfyrwyr gan helpu i greu cymuned yn y preswylfeydd lle gall myfyrwyr brofi ymdeimlad o berthyn a chynhwysiad.
Nodau a dyheadau personol
Mae cydlynwyr a chynorthwywyr o blith myfyrwyr yn rhan o Dîm Bywyd Preswyl y Brifysgol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chefnogaeth a Lles Myfyrwyr, Rheolwyr y Preswylfeydd ac Undeb y Myfyrwyr.
Dywedodd Violina: “Rwyf i'n ei theimlo'n anrhydedd, ac yn ddiolchgar iawn i dderbyn y wobr…”
Mae’r Tîm yn annog myfyrwyr i rannu eu profiadau ac i gael mynediad at wasanaethau cefnogaeth o safon a fydd yn eu helpu i wneud y mwyaf o’u bywyd fel myfyriwr a chyflawni eu nodau a’u dyheadau personol.
Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys:
- cynnig croeso cynnes ac annog proses ddiffwdan o bontio i'r Brifysgol
- creu diwylliant gyda chymuned yn ganolog
- dod â myfyrwyr at ei gilydd drwy ddigwyddiadau
Dywedodd Luigi De Luca, Deon Cyswllt ar gyfer Astudiaethau Doethurol yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'r wobr hon yn haeddiannol ac yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad Violina y tu hwnt i'w hastudiaethau PhD…”
Roedd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd hefyd yn bresennol.
Daeth â'r achlysur i ben drwy bwysleisio cyfraniad hanfodol yr holl enillwyr yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhagor am y Tîm Bywyd Preswyl.