'Gallwn wneud gwahaniaeth go iawn yma ac achub bywydau'
21 Hydref 2015
Arbenigwyr o Gymru'n rhoi hyfforddiant fydd yn achub bywydau mewn ardal anghysbell
Mae pump uwch-anaesthetegydd o dde Cymru yn mynd i ardal anghysbell yn ne Affrica i roi hyfforddiant fydd yn achub bywydau fel rhan o brosiect unigryw gan Brifysgol Caerdydd.
Bydd y cwrs dwys mewn ardal ddiffaith yn Namibia yn rhoi sgiliau hanfodol mewn anaestheteg a gofal critigol i swyddogion meddygol.
Bydd oddeutu 16 o swyddogion meddygol - sy'n gweithio mewn clinigau, ysbytai a lleoliadau cymunedol yn Oshakati yng ngogledd y wlad, ger y ffin ag Angola - yn hyfforddi dros gyfnod o bythefnos.
Mae'r hyfforddiant yn rhan o Brosiect Phoenix y Brifysgol. Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn wedi uno â Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Namibia (UNAM) ar gyfer llu o weithgareddau sy'n ymwneud ag addysg, iechyd a gwyddoniaeth.
Maent yn cynnwys mireinio sgiliau mathemateg gwyddonwyr, rhoi hwb i arferion addysgu, cryfhau ieithoedd lleol a chefnogi prosesau datblygu meddalwedd.
Dywedodd Judith Hall, Athro Anaestheteg ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweinydd y prosiect: "Yn Oshakati, byddwn yn darparu sgiliau anaesthetig sylfaenol mewn perthynas â mamau'n rhoi genedigaeth, gan fod toriadau Cesaraidd yn un o'r llawdriniaethau mwyaf cyffredin yn Affrica.
"Maent hefyd wedi gofyn am hyfforddiant i reoli pobl sy'n sâl, oherwydd mae'n rhaid i lawer o gleifion deithio cryn bellter i fynd i'r ysbyty.
"Po fwyaf gwledig yw ardal, y pwysicaf fydd hyn oherwydd y pellter - gall pobl fod yn sâl iawn erbyn cyrraedd yr ysbyty.
"Yn achos mamau beichiog, efallai na chewch y baban allan, ond os byddwch yn sylweddoli eu bod yn sâl, gallwch roi hylifau a dadebru, gan achub bywydau."
Er bod Namibia'n wlad ddaearyddol enfawr, â thros ddwy filiwn o bobl yn byw ynddi, dim ond llond llaw o anaesthetegyddion sydd â chymwysterau meddygol sydd ganddi – ac mae prinder difrifol o feddygon gofal critigol.
Yn ôl anaesthetegydd arall sy'n cymryd rhan, Dr Brian Jenkins, Uwch-ddarlithydd Anaestheteg a Meddygaeth Gofal Critigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Anaesthetegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, byddai'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar reoli cleifion sâl.
"Rydym am addysgu gwybodaeth a sgiliau i staff meddygol a fydd yn helpu cleifion," meddai.
"Mae'n gymharol hawdd helpu yn y tymor byr, ond rydym hefyd am ddatblygu mecanweithiau cefnogi er mwyn galluogi'r staff lleol i gynnal unrhyw welliannau a wnawn ar ôl i ni adael."
Mae'r hyfforddiant dwys hwn yn rhagflas i gwrs ôl-raddedig cyntaf Namibia i fynd i'r afael â'r diffygion hyn, y disgwylir iddo ddechrau ym mis Chwefror.
Mae'r cwrs Meistr, fydd yn para pedair neu bum mlynedd ac yn cael ei gynnal ar y cyd â gwasanaeth iechyd Namibia ac UNAM, yn rhan o Brosiect Phoenix hefyd, a bydd rhwng chwech a deg o fyfyrwyr yn cael eu hyfforddi bob blwyddyn.
"Ar hyn o bryd, rydych yn hynod lwcus yn Namibia os cewch eich trin mewn ysbyty gydag anaesthetegydd," meddai'r Athro Hall.
"Drwy weithio'n agos gyda Phrifysgol Namibia, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn yma ac achub bywydau."
Mae cynlluniau hefyd i ddefnyddio arbenigedd Prifysgol Caerdydd i ddarparu hyfforddiant mwy cynhwysfawr ar gyfer bydwragedd.
Bydd Grace Thomas, Pennaeth Proffesiynol Bydwreigiaeth y Brifysgol a'r Brif Fydwraig ar gyfer Addysg, yn ymweld â Namibia i weld beth yw anghenion hyfforddi'r bydwragedd.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn rhan o ddatblygu ystafell efelychu clinigol yn UNAM i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gyffredinol.
Bydd gweithgareddau eraill ar y daith dan sylw yn gweld Matt Smith o Brifysgol Caerdydd yn cefnogi e-ddysgu yn UNAM, a'r Athro Jon Davies o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn ystyried cwmpas prosiect ffiseg.
Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.
Mae gan staff o dri Choleg Prifysgol Caerdydd rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol mewn meysydd fel Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dynol.
Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes cyffredinol: menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.
Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol yng Nghaerdydd a Merthyr, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.