Yr Athro Angela Casini’n ennill Gwobr Darlithyddiaeth Cemeg Anorganig 2019
30 Mai 2019
Mae’r Athro Angela Casini wedi’i henwi’n enillydd Gwobr Darlithyddiaeth Cemeg Anorganig 2019, a noddir gan gyfnodolyn Inorganic Chemistry ac Adran Cemeg Anorganig Cymdeithas Cemeg America (ACS).
Yr Athro Casini yw Cadeirydd Cemeg Feddyginiaethol a Bioanorganig Prifysgol Caerdydd, ac mae’n arwain y MSc mewn Cemeg Feddyginiaethol, sy’n ystyried cyd-destun ehangach darganfod cyffuriau, busnes a gofal iechyd. Mae’r wobr yn cydnabod effaith ymchwil yr Athro Casini ar ‘fetelau mewn meddygaeth’, sy’n faes canolog lle mae cemeg anorganig yn rhyngweithio â bioleg. Cyflwynir y wobr yn ystod symposiwm pwrpasol yng nghyfarfod hydrefol yr ACS yn San Diego eleni.
Dywedodd William Tolman, Prif Olygydd Inorganic Chemistry: “Mae ymchwil Angela wedi cael effaith sylweddol ar faes metelau mewn meddygaeth, sy’n faes canolog lle mae cemeg anorganig yn rhyngwynebu â bioleg. Mae ei gwaith yn bwysig ac yn rhyngddisgyblaethol iawn, gyda dylanwadau sy’n cwmpasu biocemeg, bioleg a chemeg anorganig. Rwy’n edrych ymlaen at ei darlith yn y symposiwm a gynhelir er ei hanrhydedd yng Nghyfarfod Cenedlaethol yr ACS yn San Diego ym mis Awst!”
Meddai’r Athro Casini: “Dyma un o’r gwobrau mwyaf urddasol a phwysicaf i’r gymuned cemeg anorganig fyd-eang. Roedd bod ymhlith yr enillwyr yn fraint enfawr i mi. A finnau’n wyddonydd o Ewrop, mae’r gydnabyddiaeth hon am fy ngweithgareddau ymchwil hefyd yn adlewyrchu eu heffaith ryngwladol. Hoffwn ychwanegu fy mod yn arbennig o ddiolchgar i’m grŵp ymchwil am y gwaith gwych maent wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, ac am eu brwdfrydedd dros bob arbrawf.”